Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Ebrill 2013 i’w hateb ar 12 Ebrill 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ62306, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud a yw’n arfer cyffredin iddo ef neu ei swyddogion gael cwestiynau atodol cyn y cyfarfodydd llawn. (WAQ64511)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ62306, sawl gwaith y mae sefydliadau trydydd parti wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cwestiynau atodol yn ystod y 12 mis diwethaf. (WAQ64512)
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfran o brosiectau Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf sydd â therapydd lleferydd ac iaith pwrpasol ac, os oes ganddynt therapydd o’r fath, pa ganran o'i amser a dreulir ym mhob prosiect. (WAQ64509)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ64219, a wnaiff y Gweinidog nodi faint yn union o ‘sylwadau’ y mae hi wedi’u cael gan y gymuned fusnes ynghylch y rhyddhad ardrethi sydd ar gael i elusennau. (WAQ64513)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ64227, a wnaiff y Gweinidog nodi ym mha ddigwyddiadau a chyfarfodydd ad hoc y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â’r Paneli Sector ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad, gan gynnwys dyddiadau’r amrywiol ddigwyddiadau a chyfarfodydd hyn. (WAQ64514)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn llythyr y Gweinidog, dyddiedig 4 Ebrill, a oedd yn dwyn y teitl ‘Meini Prawf Asesu Cyllid Cymru’, a wnaiff gadarnhau cyfanswm nifer y busnesau sydd wedi cael help gan bob Cronfa Cyllid Cymru ar wahân, ym mhob blwyddyn y mae’r gronfa wedi bod ar waith. (WAQ64523)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o aelodau grwp llywio Prosiect Datblygu Busnes Casnewydd. (WAQ64524)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Faint sy’n cael ei dalu i’r Bwrdd a sefydlwyd i redeg Maes Awyr Caerdydd. (WAQ64525)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth y bydd y Bwrdd a sefydlwyd i redeg Maes Awyr Caerdydd yn ei gynnwys. (WAQ64526)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Faint o gyllid sy’n cael ei neilltuo i dalu am y gwaith o redeg Maes Awyr Caerdydd nes bydd yn fusnes hyfyw yn ei hawl ei hun. (WAQ64527)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Ai’r pris prynu o £52 miliwn ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yw’r pris prynu gan y perchnogion o Sbaen. (WAQ64528)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Will the Minister make a statement on the appointment of Torfaen MP, Paul Murphy, as the Welsh Government’s ambassador to Oxbridge. (WAQ64529)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch penodi Paul Murphy, AS Tor-faen, yn llysgennad ‘Oxbridge’ Llywodraeth Cymru. (WAQ64529)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dyddiadau cyfarfodydd y Panel Arbenigol ar gyfer y Rhaglen Rhifedd Genedlaethol, ynghyd ag enwau'r rheini a oedd yn bresennol a manylion am ble mae cofnodion y cyfarfodydd wedi cael eu cyhoeddi. (WAQ64530)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dyddiadau cyfarfodydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen rhanddeiliad allanol sy’n cynnal yr Adolygiad o Arlwy’r Cwricwlwm Lleol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4, ynghyd ag enwau'r rheini a oedd yn bresennol a manylion am ble mae cofnodion y cyfarfodydd wedi cael eu cyhoeddi. (WAQ64531)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dyddiadau cyfarfodydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen Llywodraethu Ysgolion, ynghyd â manylion am ble mae cofnodion y cyfarfodydd wedi cael eu cyhoeddi a phryd y bydd adroddiad y Grwp yn cael ei gyhoeddi. (WAQ64532)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen Manteision Cymunedol. (WAQ64518)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pryd y mae rhestrau aros/targedau amser y GIG yng Nghymru ar gyfer gwneud diagnosis o gamau cynnar y clefyd Parkinson yn dechrau – o’r adeg y caiff yr achos ei gyfeirio gan y meddyg teulu at yr ysbyty, yr apwyntiad cyntaf yn yr ysbyty, neu adeg arall. (WAQ64508)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa broses a geir i fonitro a yw meddyginiaethau a gymeradwyir gan Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) neu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn cael eu rhagnodi gan fyrddau iechyd lleol o fewn tri mis i’r arfarniad technoleg. (WAQ64516)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a swyddogion ynghylch meddyginiaethau amddifad ar 18 Mawrth 2013. (WAQ64517)
Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol a gynigir ar gyfer Cwmbrân. (WAQ64520)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o swyddi meddygon a oedd yn wag ym mis Ionawr 2012, a faint sy’n wag ar hyn o bryd. (WAQ64521)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint yn union o feddygon, ym mha arbenigedd, ac ym mha ysbytai, sydd wedi’u recriwtio ers lansio’r ymgyrch Gweithio dros Gymru, a pha ddull a ddefnyddir i ganfod sawl swydd wag sydd wedi’i llenwi o ganlyniad i'r ymgyrch. (WAQ64522)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi pa drafodaethau a gafodd ynghylch cynhyrchion cig anghyfreithlon a labeli anghywir ar gynhyrchion cig cyn y sgandal cig ceffyl ym mis Ionawr 2013. (WAQ64510)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cylch gwaith y Grwp Cynghori Technegol – Adolygu Nodyn Cyngor Technegol 21 (Gwastraff). (WAQ64515)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd y Grwp Cynghori Technegol – Adolygu Nodyn Cyngor Technegol 21 (Gwastraff). (WAQ64519)