12/06/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/06/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Mehefin 2015 i'w hateb ar 12 Mehefin 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68661, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau o dan ba fath o gontract y mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi Mr David Goldstone? (WAQ68753)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68669, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau faint o gynghorwyr sydd wedi cael eu cyflogi neu'u contractio i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar yr un telerau neu sail â Mr David Goldstone, gan roi ffigurau ar gyfer tymor y pedwerydd Cynulliad a chan gynnwys enwau a rolau? (WAQ68755)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68661, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oes gan Mr David Goldstone yr awdurdod i gyfarwyddo gweision sifil ynghylch sut i ymgymryd â'u rolau? (WAQ68758)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68661, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau i bwy y mae Mr David Goldstone yn adrodd iddynt o fewn Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? (WAQ68761)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68661, a oedd penodiad Mr David Goldstone yn bodloni egwyddorion Nolan ar gyfer penodiadau cyhoeddus ac, os felly, a wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion ynghylch pryd y cafodd ei benodi? (WAQ68764)

Derbyniwyd ateb ar 15 Mehefin 2015

First Minister (Carwyn Jones): Mr David Goldstone was appointed to advise the Department of Economy, Science and Transport in 2012. His role was not a public appointment. He was employed under a consultancy contract in accord with the Welsh Government’s Standard Terms and Conditions for consultancy appointments. His contract was managed by the Head of Property. Mr Goldstone did not have authority to direct or instruct civil servants

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68669, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau cyfanswm yr arian cyhoeddus a wariwyd ar gytundebau eiddo y mae Mr David Goldstone wedi rhoi cyngor arnynt yn ystod y pedwerydd Cynulliad, gan gynnwys dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn ariannol? (WAQ68754)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68669, beth oedd y cytundeb eiddo unigol mwyaf y rhoddodd Mr David Goldstone  gyngor i Lywodraeth Cymru yn ei gylch yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, o ran a) eiddo a werthwyd a b) eiddo a brynwyd? (WAQ68763)

Derbyniwyd ateb ar 15 Mehefin 2015

Carwyn Jones: Expenditure on and receipts from property transactions are subject to separate governance arrangements not involving advice from Mr David Goldstone.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68661, a wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad o'r taliadau a wnaed i Mr Goldstone ym mhob un o'r tair blynedd ariannol ddiwethaf? (WAQ68756)

Derbyniwyd ateb ar 15 Mehefin 2015

Carwyn Jones: Details of payments to Mr David Goldstone over the last three financial years are as follows:

  Fees Expenses
2014/15        2,865.00         1,151.71
2013/14        6,458.24         3,040.60
2012/13        6,825.00         3,351.15

 

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog nodi cyfanswm y cyllid sy'n parhau i fod ar gael yn y cynllun Cymorth Prynu? (WAQ68750)

Derbyniwyd ateb ar 16 Mehefin 2015

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (Lesley Griffiths):

The Welsh Government Homebuy scheme is funded through the Social Housing Grant Programme.  Local Authorities determine local priorities for their Social Housing Grant allocation. It is the responsibility of each Local Authority to determine if the Homebuy scheme is a strategic priority.

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog nodi cyfanswm y cyllid sy'n parhau i fod ar gael yng nghynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru? (WAQ68751)

Derbyniwyd ateb ar 15 Mehefin 2015

Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (Lesley Griffiths): As of 31 March 2015, of the £103.5 million made available through the Help to Buy - Wales Shared Equity Loan Scheme, £67.8 million of applications have been approved for completed and upcoming sales

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o'r cytundebau eiddo a) yng Nghaerdydd a b) yn Abertawe y rhoddodd Mr David Goldstone cyngor arnynt yn ystod y pedwerydd Cynulliad, o ran gwaredu a chaffael? (WAQ68752)

Derbyniwyd ateb ar 15 Mehefin 2015

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): Expenditure on and receipts from property transactions are subject to separate governance arrangements not involving advice from Mr David Goldstone.

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar fwyd, diod a lluniaeth arall yng ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd ym mhob un o'r pedair blynedd ariannol ddiwethaf, gan ddarparu dadansoddiad fesul adran? (WAQ68757)

Derbyniwyd ateb ar 11 Mehefin 2015

Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Jane Hutt):  The current systems operated by the Welsh Government do not separately identify the breakdown of costs at the level requested.  To provide this information would require a manual review of every invoice and procurement card transaction received from the Hilton Hotel Group as a whole. Therefore, the information cannot be provided without incurring disproportionate cost.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog gadarnhau cyfanswm yr arian a wariodd Lywodraeth Cymru ar logi ystafelloedd yng ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd yn ystod pob un o'r pedair blynedd ariannol ddiwethaf, gan ddarparu dadansoddiad fesul adran? (WAQ68760)

Derbyniwyd ateb ar 11 Mehefin 2015

Jane Hutt:  The current systems operated by the Welsh Government do not separately identify the breakdown of costs at the level requested.  To provide this information would require a manual review of every invoice and procurement card transaction received from the Hilton Hotel Group as a whole. Therefore, the information cannot be provided without incurring disproportionate cost.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68664, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion y materion y rhoddodd Mr David Goldstone gyngor i'r adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn eu cylch yn ystod y pedwerydd Cynulliad? (WAQ68759)

Derbyniwyd ateb ar 23 Mehefin 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): I will write to you and a copy of the letter will be placed on the internet.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Gan gyfeirio at WAQ68664, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r dyddiad diwethaf y rhoddodd Mr David Goldstone gyngor ffurfiol neu thaledig i'r adran iechyd a'r dyddiad y rhoddodd gyngor ffurfiol neu thaledig i Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf? (WAQ68762)

Derbyniwyd ateb ar 23 Mehefin 2015

Mark Drakeford: I will write to you and a copy of the letter will be placed on the internet.