13/03/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Mawrth 2012 i’w hateb ar 13 Mawrth 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Russell George (Sir Drefaldwyn): Wedi’i ddadansoddi yn ôl blwyddyn ariannol, faint o gyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi cael ei wario ar gynnal Rali Cymru Prydain Fawr, gan gynnwys digwyddiad eleni ym mis Medi. (WAQ59924)

Russell George (Sir Drefaldwyn): A yw Llywodraeth Cymru yn gwario unrhyw gyllid ychwanegol i ddefnyddio digwyddiad Rali Cymru Prydain Fawr i hyrwyddo twristiaeth. (WAQ59925)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl achos o MRSA a gofnodwyd yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ59913)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl achos o C Difficile a gofnodwyd yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ59914)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl uned Technoleg Ager Hydrogen Perocsid sydd ar gael i’w defnyddio ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. (WAQ59915)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau MRSA a C Difficile yn ysbytai Cymru. (WAQ59916)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ganllawiau y mae'r Gweinidog wedi’u rhoi i Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn lleihau lefelau MRSA a C Difficile yn ysbytai Cymru. (WAQ59917)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl Bwrdd Iechyd Lleol sy’n defnyddio ystafelloedd ynysu er mwyn atal achosion posibl o MRSA a C Difficile rhag lledaenu yn ysbytai Cymru. (WAQ59918)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog yn hybu Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyn ad-drefnu gwasanaethau fel y rheini ar gyfer Crymangell a Thalossaemia. (WAQ59919)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 6 Chwefror 2012 – a gan nodi ymateb manwl 55 tudalen Llywodraeth y DU – a wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol. (WAQ59921)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 6 Chwefror 2012, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad pellach am y camau gweithredu y mae’n bwriadu eu cymryd ynghylch canfyddiadau’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol ar gyfer Cymru. (WAQ59922)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw manylion aelodaeth a chylch gwaith arfaethedig Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol Cymru. (WAQ59923)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pryd a sut y bydd cynghorau tref a chymuned yn gallu cael gafael ar gyllid fel y pennir yn Adran 129 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n cyfeirio at bwer Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i gynghorau cymuned.  (WAQ59920)