Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Medi 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.CynnwysCwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a ThrafnidiaethCwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r dyddiad targed ar gyfer rhoi Strategaeth Swyddi Gwyrdd ar gyfer Cymru gyfan ar waith? (WAQ50350)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae fy Swyddogion yn gweithio i baratoi strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf.
Michael German (Dwyrain De Cymru): Sawl cyfarfod y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Gweinidogion a swyddogion y Trysorlys ynghylch Fformiwla Barnett a’i chyfraniad at dwf economi Cymru? (WAQ50370)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Dim hyd yn hyn.Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian ychwanegol y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu’i ddarparu ar gyfer y rhaglen Cefnogi Pobl? (WAQ50346)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn elfen bwysig o agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol, digartrefedd a diogelwch cymunedol yng Nghymru.
Yn 'Cymru’n Un: rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru’ rydym wedi rhoi ymrwymiad i gynyddu’r arian ar gyfer rhaglen Cefnogi Pobl dros y pedair blynedd nesaf.
Caiff cynigion y gyllideb ar gyfer 2008-09 eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn galendr.
Yn dilyn y cyhoeddiad, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod y cynigion hyn.