13/12/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Rhagfyr 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Rhagfyr 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am brosiectau llif llanw yng Nghymru? (WAQ50786)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Oherwydd fy rôl bosibl yn y broses o wneud penderfyniadau, ni fyddai'n briodol i mi gynnal trafodaethau uniongyrchol gyda datblygwyr ynglŷn â phrosiectau penodol. Fodd bynnag, yr wyf yn ymwybodol bod diddordeb yn y posibilrwydd o ddatblygu dyfais ynni adnewyddadwy gan ddefnyddio llif y llanw yn y moroedd o amgylch Sir Benfro ac Ynys Môn. Croesawn ddiddordeb o'r fath gan y credwn fod amgylchedd morol Cymru yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy tonnau a'r llanw.

Er mwyn tanlinellu ein dyheadau morol, rydym yn datblygu prosiect ymchwil ar hyn o bryd a fydd yn arwain at gynhyrchu'r Fframwaith Strategol Ynni Morol Adnewyddadwy i Gymru. Nod cyffredinol y Strategaeth fyddai sicrhau'r defnydd gorau posibl o adnoddau morol adnewyddadwy yn y moroedd o amgylch Cymru.  

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am forlynnoedd llanw yng Nghymru? (WAQ50787)

Jane Davidson: Siaradais â'r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ynglŷn â'i argymhelliad ar gyfer cystadleuaeth ar gyfer cynllun peilot; yr wyf hefyd wedi trafod hyn â Gweinidog Ynni'r DU. Croesawaf gyhoeddiad Llywodraeth y DU y caiff morlynnoedd llanw eu cynnwys yn y Cynllun Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bris adwerthu cig oen o Gymru fesul Kg o’i gymharu â’r pris y mae cynhyrchwyr yn ei gael? (WAQ50799)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Ym mis Tachwedd 2007 cyfartaledd pris manwerthu cig oen oedd 574.5 ceiniog fesul kg o gymharu â'r pris fferm cyfartalog o 197.9 ceiniog fesul kg (pwysau marw).  Yr wyf yn ceisio dylanwadu ar fanwerthwyr i ystyried mesurau i sicrhau y dosberthir yr elw'n fwy cyfartal yn y gadwyn gyflenwi.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pris a gaiff ffermwyr defaid Cymru ar hyn o bryd am gig oen? (WAQ50800)

Elin Jones: Ar 1 Rhagfyr 2007 pris cyfartalog wythnosol cynhyrchwyr yng Nghymru ar gyfer ŵyn wedi'u pesgi oedd 79.61 ceiniog y kg (pwysau byw). Mae'r pris hwn 20 y cant yn is na'r pris ar gyfer yr un cyfnod yn 2006. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth i awgrymu bod enillion yn gwella, gan fod prisiau cyfredol 8 y cant yn uwch na'r pris cyfatebol ar 3 Tachwedd 2007 (73.65 ceiniog fesul kg pwysau byw).

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae hi’n ceisio sicrhau bod ffermwyr defaid Cymru yn gallu cael gwell pris am eu cynnyrch? (WAQ50801)

Elin Jones: Rwyf yn ceisio dylanwadu ar fanwerthwyr i ystyried camau i sicrhau y caiff yr elw ei ddosbarthu'n fwy cyfartal yn y gadwyn gyflenwi ac i gadw stoc o fwy o gig coch a gynhyrchwyd yn lleol.  Hefyd, mewn ymateb i ganfyddiadau dros dro'r Comisiwn Cystadleuaeth, rwyf wedi cefnogi'r awgrym y dylid penodi corff annibynnol i fonitro a rheoleiddio'r diwydiant manwerthu lluosog hwn.

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ac ystyried datganiadau diweddar Comisiynydd Dimas yr UE a wnaiff y Gweinidog fanylu a yw’n bwriadu cefnogi barn y Comisiynydd a gwrthod caniatâd ar gyfer tyfu a masnacheiddio’r amrywiadau indrawn GM BT11 a 1507? (WAQ50802)

Elin Jones: Rwyf yn ymwybodol o bryderon Comisiynydd Dimas.  Deallir nad yw'r mathau hyn o indrawn yn addas i'w tyfu yng Nghymru, ond, er gwaethaf hynny, rwyf wedi gofyn i'r Pwyllgor Cynghori ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd (ACRE) ddarparu cyngor ar yr ymchwil sy'n mynd rhagddi i'r posibilrwydd y gallai'r mathau hyn o indrawn sy'n gwrthsefyll pryfed niweidio'r amgylchedd, ac ecosystemau dyfrol yn benodol.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A all y Gweinidog gadarnhau a oes cynlluniau i gael brechlyn yng Nghymru pe byddai achos o glefyd y tafod glas yng Nghymru’r gwanwyn nesaf? (WAQ50804)

Elin Jones: Fe'ch cyfeiriaf at fy Natganiad Ysgrifenedig ar 13 Rhagfyr 2007.