14/05/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 14 Mai 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 14 Mai 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith dileu’r band treth 10c ar bobl Cymru? (WAQ51673)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch dileu’r band treth 10c? (WAQ51679)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Cyfrifoldeb Canghellor y Trysorlys yw’r system drethiant, fel mater a gedwir yn ôl. Rydym wedi mynegi ein pryder am effeithiau diddymu’r gyfradd dreth incwm 10c ar deuluoedd yng Nghymru sydd ar incwm isel ac edrychwn ymlaen at weld manylion cynlluniau’r Canghellor i liniaru’r effeithiau hyn drwy newidiadau eraill yn y system dreth.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch defnyddio cardiau credyd a/neu gardiau debyd i dalu’r tollau i groesi Afon Hafren? (WAQ51707)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Dim.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Severn River Crossing ccc ynghylch defnyddio cardiau credyd a/neu gardiau debyd i dalu’r tollau i groesi Afon Hafren? (WAQ51708)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Dim.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru nifer y gorchmynion atal sŵn a roddwyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51718)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn casglu data ar orchmynion atal sŵn a roddwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) yn cynnal arolygon blynyddol o orchmynion atal sŵn a gyhoeddwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’r CIEH yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar sail awdurdodau lleol unigol ond mae ystadegau cryno ar gael gan:

Kim Willis,

Chartered Institute of Environmental Health,

Chadwick Court,

15 Hatfields,

London SE1 8DJ

E-bost NoiseStats@CIEH.org

Gwefan NoiseStats@CIEH.org

Ffôn 020 7827 5822

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i fynd i’r afael â phroblem heintiau sy’n ymwneud ag ysbytai? (WAQ51691)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd y mater o leihau achosion o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn ddifrifol iawn. Ers lansio 'Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd—Strategaeth ar gyfer Ysbytai yng Nghymru’, 2004, rydym wedi cymryd dull mwy cyffredinol tuag at heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac nid ydym wedi pennu targedau lleihau sy’n canolbwyntio ar organebau penodol. O dan Fframwaith Gweithredu Blynyddol 2008-09, mae’r ymddiriedolaethau yn cytuno ar dargedau lleol.

Rydym wedi parhau i bwysleisio mai cyfrifoldeb pob aelod o staff gofal iechyd yw rheoli heintiau a bod materion hylendid a rheoli heintiau wedi’u hymgorffori yn agendâu rheoli ysbytai.

Dangosodd canlyniadau astudiaeth amlygrwydd yn 2006 fod cyfradd yr heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yng Nghymru yn 6.4%, a oedd yn is na chyfradd y DU a Gweriniaeth Iwerddon sef 7.6%. Mae hyn yn dangos mai’r dull a ddefnyddir ar hyn o bryd yw’r un cywir.

Ym mis Tachwedd 2007, cyflwynodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad, 'Lleihau Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd mewn Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru’. O ganlyniad ystyriwyd yr adroddiad hwn gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad sydd wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn ddiweddar. Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i’r adroddiadau hyn ym mis Mehefin a byddaf yn ystyried yr angen am unrhyw fuddsoddiad newydd yn y maes hwn ac a oes angen diweddaru strategaeth 2004.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd oedd y tro diwethaf i’r Gweinidog gyfarfod â rheolwyr Clwb Criced Sir Morgannwg ynghylch y gêm brawf yng nghyfres y Lludw 2009, a beth oedd y canlyniad? (WAQ51717)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Cefais gyfarfod â rheolwyr Clwb Criced Morgannwg ddydd Gwener 9fed Mai 2008 yn gêm agoriadol Stadiwm SWALEC lle y cefais y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a wnaed tuag at gynnal Prawf Cyfres y Lludw yn 2009. Mae’n bleser gennyf adrodd bod y paratoadau’n mynd rhagddynt.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i wahardd defnyddio coleri cwn sy’n rhoi sioc drydanol yng Nghymru? (WAQ51687)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Derbyniwyd 173 o ymatebion i’r ymgynghoriad a ddaeth i ben yn gynharach eleni. Caiff y dystiolaeth ei harchwilio’n feirniadol er mwyn sicrhau bod unrhyw gynigion a ddatblygir yn briodol.