14/06/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Mehefin 2013 i’w hateb ar 14 Mehefin 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu cyfanswm nifer y busnesau sydd wedi datgan diddordeb ffurfiol mewn ymsefydlu yn a) Ardal Fenter Sain Tathan a b) Ardal Fenter Caerdydd ers iddynt gael eu cyhoeddi, a rhestru’r holl fusnesau sydd wedi’u lleoli yn y naill ardal a’r llall ar hyn o bryd? (WAQ64851)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru dyddiadau unrhyw gyfarfodydd y mae wedi’u cael a’r Aelod dros Adfywio ar Gabinet Cyngor Bro Morgannwg i drafod Ardal Fenter Sain Tathan? (WAQ64852)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi ffigurau ar gyfer nifer y cwmnïau sy’n ymsefydlu yng Nghymru o ganlyniad i’r cynllun Ardaloedd Menter, gan roi cyfanswm a dadansoddiad o bob ardal unigol? (WAQ64853)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi ffigurau ar gyfer cyfanswm nifer y swyddi newydd sydd wedi cael eu creu o ganlyniad i’r cynllun Ardaloedd Menter, gan roi cyfanswm a dadansoddiad o bob ardal unigol? (WAQ64854)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi ffigurau ar gyfer buddsoddiadau newydd yn y sector preifat o ganlyniad i’r cynllun Ardaloedd Menter, gan roi cyfanswm a dadansoddiad o fuddsoddiadau newydd yn y sector preifat ym mhob ardal unigol? (WAQ64855)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu’r cyfanswm a wariwyd hyd yma ar bolisi ardaloedd menter Llywodraeth Cymru, gan roi dadansoddiad o bob ardal? (WAQ64856)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r broses ar gyfer cyflwyno brechlynnau newydd yng Nghymru yn dilyn argymhelliad cadarnhaol gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu? (WAQ64843)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno’r brechlyn meningococcal B newydd yn amserlen arferol imiwneiddio plant, yn dilyn argymhelliad cadarnhaol gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu? (WAQ64844)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro cylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yng nghyswllt Cymru? (WAQ64845)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Faint o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd sydd wedi bod yng Nghymru ym mhob un o'r pum blynedd diwethaf? (WAQ64849)

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Faint o reoliadau sy’n effeithio ar y sector rhentu preifat yng Nghymru ar hyn o bryd? (WAQ64842)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o'r costau a fydd yn wynebu landlordiaid yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol yn sgîl y diwygiadau i ddeiliadaethau a fydd yn deillio o’r Bil arfaethedig ynghylch Rhentu Cartrefi? (WAQ64846)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa amcangyfrif y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o gost Cynllun Trwyddedu Asiantaethau a Landlordiaid Cymru Llywodraeth Cymru i (a) Llywodraeth Cymru, (b) y sector tai rhent preifat ac (c) landlordiaid yn unigol? (WAQ64847)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ymgynghoriadau y mae wedi’u cynnal â landlordiaid preifat ynghylch Cynllun Trwyddedu Asiantaethau a Landlordiaid Cymru a’r Bil Rhentu Cartrefi? (WAQ64848)