14/11/2014 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 10/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Tachwedd 2014 i'w hateb ar 14 Tachwedd 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa reoliadau adeiladu /rheolau cynllunio sydd yn eu lle i reoli'r gwaith o adeiladu pontydd dros brif gyrsiau dŵr? (WAQ67996)

Derbyniwyd ateb ar 14 Tachwedd 2014

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant): The Town and Country Planning (Development Management Procedure) (Wales) Order 2012 requires a local planning authority to consult Natural Resources Wales where a planning application has been submitted for development involving the carrying out of works or operations in the bed of or on the banks of a river or stream.

Technical Advice Note (TAN) 15: Development and Flood Risk identifies that Natural Resources Wales has statutory powers to control the erection of structures in, over or under main rivers.

 

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer yr apeliadau Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol a wnaed ar gyfer pob bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2014, gan nodi faint oedd yn llwyddiannus a faint oedd yn aflwyddiannus? (WAQ67992)     

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol a wnaed ar gyfer cleifion canser y prostad yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2014, gan nodi faint oedd yn llwyddiannus a faint oedd yn aflwyddiannus? (WAQ67993)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol a wnaed ar ran cleifion canser y prostad gan bob bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2014 ar gyfer pob un o'r triniaethau canlynol: a) radiotherapi stereotactig; b) enzalutamide; ac c) abiraterone? (WAQ67994)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol a wnaed gan gleifion canser y prostad ym mhob bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2014, gan nodi faint oedd yn llwyddiannus a faint oedd yn aflwyddiannus? (WAQ67995)     

Answer received on 25 Tachwedd 2014 (WAQ67992-95)
 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): The information is not held by Welsh Government. Public Health Wales (PHW) publishes an annual report on Individual Patient Funding Requests (IPFR). The report can be accessed at the PHW website:

http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/pharmaceuticalphtdocs.nsf/61c1e930f9121fd080256f2a004937ed/8d47778573505d3980257cdd0031a1c6/$FILE/Annual%20report%20IPFR%20and%20Top-up%20payments2014%20FINAL.pdf