Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Rhagfyr 2007 i’w hateb ar 14 Rhagfyr 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i ehangu darpariaeth gwasanaethau bws ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. (WAQ50803)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth yw cyfanswm y grantiau trafnidiaeth a ddychwelwyd gan awdurdodau lleol. (WAQ50805)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth yw’r dadansoddiad, fesul awdurdod lleol, o’r grantiau trafnidiaeth a ddychwelwyd. (WAQ50806)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Faint o grantiau trafnidiaeth a ddychwelwyd gan awdurdodau lleol. (WAQ50807)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ac ystyried datganiadau diweddar Comisiynydd Dimas yr UE a wnaiff y Gweinidog fanylu a yw’n bwriadu cefnogi barn y Comisiynydd a gwrthod caniatâd ar gyfer tyfu a masnacheiddio’r amrywiadau indrawn GM BT11 a 1507. (WAQ50802)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A all y Gweinidog gadarnhau a oes cynlluniau i gael brechlyn yng Nghymru pe byddai achos o Glefyd y Tafod Glas yng Nghymru’r gwanwyn nesaf. (WAQ50804)