Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Chwefror 2016 i'w hateb ar 15 Chwefror 2016
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o swyddi sydd wedi cael eu creu gan grantiau neu fenthyciadau a roddwyd i KUKD.com cyf. gan Lywodraeth Cymru? (WAQ69771)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a hysbyswyd y Gweinidog neu ei swyddogion am unrhyw faterion posibl yn ymwneud â'r cyllid a ddarperir i KUKD.com cyf. a/neu Euro Foods Group gan Lywodraeth Cymru? (WAQ69772)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y tro diwethaf y cyfarfu ei swyddogion ag unrhyw un o gyfarwyddwyr a/neu uwch reolwyr KUKD.com cyf. a/neu Euro Foods Group i drafod y cyllid y maent yn ei gael gan Lywodraeth Cymru? (WAQ69773)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oedd unrhyw ystyriaeth wedi cael ei roi i ad-dalu unrhyw grantiau neu fenthyciadau sydd wedi cael eu talu i KUKD.com cyf. a/neu Euro Foods Group o ganlyniad i dorri amodau sy'n gysylltiedig â'r cynnig gwreiddiol? (WAQ69774)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cyfanswm y grantiau neu fenthyciadau sydd wedi cael eu talu i KUKD.com cyf. a/neu Euro Foods Group a faint ohonynt sydd wedi cael eu tynnu i lawr hyd yma, gan nodi union ddyddiadau pob un o'r trafodion? (WAQ69775)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oedd unrhyw symiau o arian a ddarparwyd i KUKD.com cyf. a/neu Euro Foods Group yn amodol ar gyfleoedd i greu swyddi ac, os felly, faint o swyddi sydd wedi cael eu creu hyd yma? (WAQ69776)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o arian a dalwyd i KUKD.com cyf. a/neu Euro Foods Group drwy gyfrwng grantiau neu fenthyciadau? (WAQ69777)
Derbyniwyd ateb ar 17 Chwefror 2016
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): I have asked officials to look into the matter and will write to you with a response in due course.
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Ymhellach i WAQ69689, a wnaiff y Llywodraeth Cymru ddarparu unrhyw arian ychwanegol i fyrddau iechyd yn y flwyddyn ariannol 2016/17 i gynorthwyo gyda'r gwaith o gyflwyno triniaethau di-interfferon hepatitis C? (WAQ69778)
Derbyniwyd ateb at 19 Chwefror 2016
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): The Welsh Government has provided an additional £200 million for the NHS in Wales in the 2016-17 Draft Budget.