Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 15 Mawrth 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofyn
i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw dargedau ar gyfer nifer y bobl (sy'n hanu o Gymru neu fel arall) sy'n mynychu prifysgol ac os felly, beth ydynt. (WAQ55850)
Rhoddwyd
ateb ar 22 Mawrth 2010
Mae targedau'n cael eu hystyried ar hyn o bryd i fesur effaith Er Mwyn Ein Dyfodol gyda'r bwriad o'u rhoi ar waith erbyn haf 2010. Mae'r strategaeth yn galw am weld llawer mwy o bobl yn profi addysg uwch, gan gydnabod y bydd y profiad yn wahanol i lawer yn y dyfodol o'i gymharu â'r cyrsiau gradd amser llawn traddodiadol, ac na fyddant o reidrwydd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau prifysgol traddodiadol. Felly, dylai targedau'r dyfodol adlewyrchu naws a blaenoriaethau Er Mwyn Ein Dyfodol.
Gellir gweld y data diweddaraf ar wefan Ystadegau yng Nghymru, yn y bwletin "Myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch, 2008/09".
http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/post16education2010/0210/?lang=cy
Gofyn
i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r rheini sy'n rhannu'n un cyfrifoldebau â hi yn rhanbarthau eraill y DU ynghylch casglu'r ardoll cig coch yn y dyfodol. (WAQ55849)
Rhoddwyd
ateb ar 22 Mawrth 2010
Rwyf yn ymwybodol bod pryderon am y system ar gyfer gweinyddu'r ardoll cig coch ledled y DU. Ar hyn o bryd, mae swyddogion ledled y DU yn gweithio i ganfod opsiynau i'w trafod gan y Gweinidogion.
Rwyf yn chwarae rhan lawn yn y broses hon ac yn gweithio gyda llywodraethau'r DU er mwyn sicrhau'r system orau bosibl i Gymru.