15/07/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Gorffennaf 2009 i’w hateb ar 15 Gorffennaf 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro’r rhesymwaith dros y cynlluniau i symud gwasanaeth Galw Iechyd Cymru ar gyfer y Gogledd o Fangor i Lanelwy ac ystyried bod y gwasanaeth ym Mangor wedi hen ennill ei blwyf ac yn seiliedig ar ddefnyddio’r ffôn. (WAQ54529)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o staff presennol Galw Iechyd Cymru, sydd yn meddu ar sgiliau a phrofiad, a fydd yn trosglwyddo i’r ganolfan Galw Iechyd Cymru newydd yn Llanelwy a pha ddewisiadau sydd ar gael iddynt ym Mangor, oni fyddant yn dewis trosglwyddo neu oni chânt drosglwyddo. (WAQ54530)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod digon o staff ar gael yn Galw Iechyd Cymru i ddelio ag ymholiadau yn y naill iaith a’r llall pan fydd yn symud i Lanelwy. (WAQ54531)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf beth fydd y goblygiadau ariannol i drethdalwyr ac i’r staff yn sgil trosglwyddo gwaith Galw Iechyd Cymru o Fangor i Lanelwy, ee o ran costau teithio a sut y cyfrifwyd y costau hyn. (WAQ54532)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyd amseroedd aros mewn coridorau ar gyfer cleifion GIG wrth drosglwyddo rhwng ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys. (WAQ54533)