16/01/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Ionawr 2013 i’w hateb ar 16 Ionawr 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd yn 2013 i sicrhau bod rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal yng Nghymru. (WAQ61946)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gomisiynu gwaith technegol ar leoliadau posibl yng Nghymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 2026. (WAQ61948)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pryd y bydd gwaith technegol yn dod i ben ar leoliadau posibl yng Nghymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 2026. (WAQ61949)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu twristiaeth golff yng Nghymru yn 2013. (WAQ61947)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl swydd sydd wedi’i chreu drwy Twf Swyddi Cymru er mis Ebrill 2012. (WAQ61939)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw’r Gweinidog wedi cofnodi sawl swydd a grëwyd drwy Twf Swyddi Cymru sydd wedi arwain at swydd sy’n para fwy na’r cyfnod chwe mis. (WAQ61940)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ganran o’r swyddi a grëwyd drwy Twf Swyddi Cymru sydd wedi’u creu yn y sector preifat. (WAQ61941)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl swydd a grëwyd yn y sector preifat drwy Twf Swyddi Cymru. (WAQ61942)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ganran o’r swyddi a grëwyd drwy Twf Swyddi Cymru sydd wedi bod yn gyfleoedd swydd yn y gymuned. (WAQ61943)

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Gwasanaeth Cynnal Cerdd Gwent. (WAQ61944)

William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu trafodaethau a gafwyd gydag Awdurdodau Lleol ynghylch cyllido Gwasanaeth Cynnal Cerdd Gwent. (WAQ61945)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud yn y Pedwerydd Cynulliad o ran cysylltu tai gwledig â’r prif gyflenwad nwy.  (WAQ61952)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am gyfarfodydd y Grwp Cynghori'r Gweinidog ar Dlodi Tanwydd sydd wedi’u trefnu. (WAQ61953)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Beth yw gwerth cyfalaf y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2013/14. (WAQ61950)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i fuddsoddi cyfalaf mewn llwybrau cerdded a beicio yn ystod 2013/14. (WAQ61951)