16/03/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mawrth 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mawrth 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cost rhedeg gwasanaeth sifil Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53709)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ysgrifennu atoch i ymateb i’r cwestiwn hwn a chaiff copi o’r llythyr ei osod ar y rhyngrwyd.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pryd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu cyhoeddi’r adroddiad gan yr Athro Christopher Pollock ynghylch swydd barhaol Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ53716)

Y Prif Weinidog: Mae’r adroddiad a’i gyhoeddiad yn dal i gael eu hystyried.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53649) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53655.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53664) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53655.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa wasanaethau a ddarperir drwy rwydwaith Swyddfa’r Post yn y meysydd yr ydych yn gyfrifol amdanynt? (WAQ53666)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Nid yw APADGOS yn darparu gwasanaethau drwy rwydwaith Swyddfa’r Post.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53652) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53655.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa arweiniad y mae’r Gweinidog wedi’i gyhoeddi ar gyfer awdurdodau lleol yn ymwneud â chyfran y ceisiadau cynllunio y dylai swyddogion awdurdod lleol benderfynu arnynt yn hytrach na phwyllgorau cynllunio? (WAQ53733)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Roedd Nodyn Cyngor Technegol 17, 'Cynllunio a Rheoli Datblygiad’, y cyhoeddwyd y Drafft Ymgynghori ohono ym mis Awst 2007, yn cynghori er nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod targed penodol am ddirprwyo penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, dylid dirprwyo’r cyfrifoldeb am gymaint o’r penderfyniadau hyn ag sy’n bosibl i Swyddogion.

Deallaf fod cyfraddau dirprwyo yng Nghymru yn amrywio rhwng 60 a 90%. Mae dirprwyo’n caniatáu i’r awdurdod cynllunio lleol gynnig gwasanaeth cynllunio mwy effeithlon ac ymatebol, ac yn galluogi Aelodau i ganolbwyntio ar faterion cynllunio mawr, mwy dadleuol.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gyfarwyddyd y mae wedi’i gyhoeddi ynghylch y pellter lleiaf rhwng siediau dofednod ac eiddo preswyl? (WAQ53714)

Jane Davidson:  Nodir canllawiau ar ystyriaethau amaethyddol yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 ar gynllunio 'Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig’, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2000. Dylid darllen y TAN ar y cyd â’r polisïau cenedlaethol a nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru’, a dylai awdurdodau cynllunio lleol ei ystyried wrth baratoi cynlluniau datblygu lleol ac wrth wneud penderfyniadau cynllunio.

Esbonia’r TAN fod Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn nodi’r hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas ag ystod o adeiladau a gweithrediadau amaethyddol. Nid yw’r hawliau hyn fel arfer yn gymwys i adeiladau sy’n cael eu defnyddio i gadw da byw pan fo rhain i fod i gael eu hadeiladu o fewn 400 metr i gwrtil annedd, neu 'adeilad arall a ddiogelir’ megis ysgol, ysbyty neu swyddfeydd a ddefnyddir fel arfer gan bobl.

Byddai angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol ar gynigion i adeiladu 'adeilad a ddiogelir’, neu adeilad ar gyfer da byw o fewn 400 metr i adeilad presennol 'a ddiogelir’.

Ceir esboniad manwl o’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer adeiladau amaethyddol yn TAN 6 ac yn y Gorchymyn.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53655)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Y Post Brenhinol sy’n trin y rhan fwyaf o bost Llywodraeth Cynulliad Cymru. Defnyddir darparwyr gwasanaeth eraill pan fo’n briodol, gan ystyried gwerth am arian a’r brys i anfon.

Gweler cyfanswm y gwariant ar bost a chludiant o fewn cyllideb y Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu yn y tabl isod.

Cyfanswm Costau Post a Chludiant

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Mawrth 2009

Blwyddyn Ariannol

£m

2007-2008

1.0

2006-2007

1.0

2005-2006

0.8

2004-2005

0.7

2003-2004

0.7

2002-2003

0.7

Bydd gwariant drwy gyllidebau portffolios y Gweinidogion hefyd ond nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar hyn o bryd. Mae costau postio o’r fath yn perthyn i weithgareddau portffolios y Gweinidogion; er enghraifft, anfon dogfennau ymgynghori cyhoeddus. Mae gwybodaeth ariannol blynyddoedd blaenorol wedi’i harchifo ac nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53661) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53655.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o arian sydd wedi cael ei wario ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf ar gyfer brwydo (a) Canser y Fron, a (b) Canser y Prostad yng Nghymru? (WAQ53712)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi ffigurau sy’n rhoi manylion yr arian sydd wedi cael ei wario yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf ar (a) canser y fron a (b) canser y prostad? (WAQ53717)

Edwina Hart: Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw’r arbedion effeithlonrwydd gwirioneddol y mae gofyn i bob Ymddiriedolaeth GIG a Bwrdd Iechyd Lleol eu gwneud yn y flwyddyn ariannol gyfredol? (WAQ53719)

Edwina Hart: Ni phennir targedau effeithlonrwydd ar gyfer sefydliadau unigol y GIG. Disgwyliwyd y byddai’r GIG i gyd yn gwneud arbedion effeithlonrwydd o 2.5% yn 2008-09 er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfarwyddiadau y mae’r Gweinidog wedi’u cyhoeddi ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG er 2007? (WAQ53720)

Edwina Hart: Hyd at ganol 2008 roeddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau’r GIG drwy Gylchlythyrau Iechyd Cymru. Gellir dod o hyd i’r rhain drwy ddilyn y ddolen isod i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru:

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/circulars/?skip=1&lang=cy

Erbyn hyn rwyf yn rhoi cyfarwyddiadau drwy gyfrwng llythyr gan y Gweinidog. Gellir gweld y rhain drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/ministerialletters/?skip=1&lang=cy

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gostau ychwanegol sydd wedi codi yn sgil bwrw ymlaen â’i chynllun i ailstrwythuro’r GIG? (WAQ53721)

Edwina Hart: Mae costau ad-drefnu’r GIG yn dal i gael eu cyfrifo, ond disgwylir y bydd yn arwain at arbedion ariannol a gwell effeithlonrywdd, a fydd yn caniatáu i ni fuddsoddi’r arbedion mewn gwasanaethau i gleifion.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth oedd cyfanswm y gost ychwanegol o uno’r Ymddiriedolaethau GIG i greu Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda? (WAQ53722)

Edwina Hart: Y gost arian parod ychwanegol o uno sefydliadau’r GIG i ffurfio Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda oedd £100k.

Nick Ramsay (Mynwy): Sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod oedolion ag awtistiaeth yn cael yr un lefel o gefnogaeth â phlant a phobl ifanc? (WAQ53727)

Edwina Hart: Mater i bob awdurdod lleol yn unigol yw asesu anghenion gofal oedolion a phlant ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig a phenderfynu ar y ffordd orau o ddiwallu’r anghenion gofal a aseswyd.

Er mwyn helpu’r awdurdodau lleol i weithredu ein Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD) yng Nghymru, rwyf wedi sicrhau bod adnoddau ar gael i benodi swyddog arweiniol ar gyfer ASD ym mhob awdurdod. Rwyf hefyd wedi sicrhau bod adnoddau ar gael i ariannu tri Swyddog Cymorth Rhanbarthol a fydd wedi’u lleoli yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi’r swyddogion arweiniol hyn ar gyfer ASD. Bydd cymorth ychwanegol hefyd ar gael drwy rwydwaith allrwyd ar-lein.

Rwyf yn disgwyl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Oedolion ag ASD gyflwyno ei adroddiad i mi yn y gwanwyn a fydd yn sôn am faterion penodol y mae oedolion ag ASD yn eu hwynebu a’r hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael â hwy. Byddaf yn ystyried pa gamau gweithredu pellach efallai y gallai fod angen eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad hwn.

Rydym hefyd wedi comisiynu gwaith ymchwil i achosion o ASD mewn pobl hŷn yng Nghymru a’u hanghenion hwythau. Dylai’r adroddiad ymchwil hwn fod ar gael yn yr hydref.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa arbedion costau a/neu effeithlonrwydd, mewn ffigurau gwirioneddol, y mae gofyn i bob corff GIG eu gwneud yn ystod blwyddyn ariannol 2009/10? (WAQ53734)

Edwina Hart: Ni phennir targedau effeithlonrwydd ar gyfer sefydliadau unigol y GIG. Yn 2009-10 disgwylir i’r GIG i gyd wneud arbedion effeithlonrwydd o 3%.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu gwaith yr Uned Cefnogi Presgripsiynu Dadansoddol Cymru hyd yma? (WAQ53735)

Edwina Hart: Nid yw Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU) wedi’i sefydlu. Mae Partneriaeth Meddyginiaethau Cymru wedi ymgymryd â rhywfaint o waith rheoli prosiect er mwyn sefydlu’r uned arfaethedig ac wedi gweithio ar brosiectau ym maes meddyginiaethau heb eu trwyddedu a hyrwyddo gofal eilaidd. Byddai’r prosiectau hyn wedi perthyn i gylch gwaith WAPSU.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl benderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Iechyd y Cynulliad er 1999, yn ogystal â nodi’r costau gwirioneddol i gyrff y GIG o ganlyniad i’r penderfyniadau hynny? (WAQ53737)

Edwina Hart: Rwyf i a’r ddau Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol wedi gwneud penderfyniadau niferus yn ddyddiol sy’n effeithio ar y GIG yng Nghymru. Nid oedd gan bob un o’n penderfyniadau oblygiadau ariannol ond byddai rhestru’r penderfyniadau a wnaed ers 1999 oedd â goblygiadau ariannol yn afresymol o ran cost ac amser.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i leihau lledaeniad yr annwyd cyffredin? (WAQ53763)

Edwina Hart: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi annog arferion anadlol a hylendid dwylo da drwy nifer o negeseuon i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r gwaith o leihau lledaeniad y feirws annwyd. Elfennau allweddol fu ymgyrch gyhoeddusrwydd Her Iechyd Cymru a chynhyrchu’r daflen wybodaeth "Drwy disian a phesychu mae clefydau’n lledaenu" ym Mai 2008 a ddosbarthwyd i’r cyhoedd drwy feddygfeydd, ysbytai, ysgolion a rhwydweithiau eraill.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am y swm o arian y mae ei adran yn ei wario bob blwyddyn ar ddatblygu bocsio amatur? (WAQ53696)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer chwaraeon ei sianelu drwy Gyngor Chwaraeon Cymru sy’n hysbysu y clustnodwyd dros £80 mil i gefnogi datblygiad bocsio ledled Cymru yn ystod 2007-2008.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ53670) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53655.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53667) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53655.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau gwasanaeth post a ddefnyddir yn eich adran ac a allwch roi manylion am y gwasanaeth danfon a ddefnyddir, gan nodi ai’r Post Brenhinol sy’n gwneud y naill neu’r llall, yn ogystal â rhoi’r ffigurau yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53658) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53655.