16/03/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 10/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/04/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Mawrth 2015 i'w hateb ar 16 Mawrth 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yn dilyn yr ateb i gwestiwn WAQ68423, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at breswylwyr a busnesau y nodwyd eisoes eu bod y tu allan i gwmpas prosiect Cyflymu Cymru i roi gwybod iddynt na fyddant yn elwa o'r cynllun ar hyn o bryd? (WAQ68464)

Derbyniwyd ateb ar 17 Mawrth 2015

The Deputy Minister for Skills and Technology (Julie James): The Welsh Government has not written to all 45,000 homes and businesses involved. Information about the infill project, including a list of all of the postcodes involved, is available on the Welsh Government website. The premises will not be at a disadvantage as access will be provided in the same timeframe as the Superfast Cymru project.

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd yr holl gostau ar gyfer y lôn pum milltir ar yr M4 yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac nad oes unrhyw oblygiadau i Gyngor Bro Morgannwg? (WAQ68465)

Derbyniwyd ateb ar 13 Mawrth 2015

Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): We are currently in discussion with the Vale of Glamorgan Council regarding a grant offer to cover the costs of these works. 

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad wedi'i ddiweddaru ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran yr opsiynau ar gyfer y lôn pum milltir ar yr M4, gan gynnwys pryd y bydd y llwybr a ffefrir yn cael ei ddyfarnu i gontractwr? (WAQ68466)

Derbyniwyd ateb ar 13 Mawrth 2015

Edwina Hart: The Vale of Glamorgan Council is preparing a planning application for a preferred route. It is hoped that a contractor will be appointed before the end of the year.