16/05/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Mai 2013 i’w hateb ar 16 Mai 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion cylch gwaith yr Uned Cyflenwi Ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar? (WAQ64707)

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau i roi sylw i argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwebaeth ar Adroddiad Blynyddol Cynllun Datblygu Cynaliadwy 2012? (WAQ64706)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Nick Ramsay (Mynwy): Pa ystyriaethau y mae’r Gweinidog wedi’u rhoi i wella argaeledd ystadegau economaidd sy’n benodol i Gymru? (WAQ64699)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ynghylch argaeledd ystadegau economaidd sy’n benodol i Gymru. A wnaiff hefyd roi manylion nifer y cyfarfodydd y mae wedi'u cael gydag ONS? (WAQ64700)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth yw’r gost a amcangyfrifir ar gyfer y Grwp Llywio ar botensial twf busnes Canol Dinas Casnewydd yn ystod ei gylch gwaith deuddeng mis? (WAQ64702)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Gyda golwg ar yr estyniad i reilffordd Glynebwy, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i estyn y ddolen basio i'r de o Lanhiledd er mwyn gallu cael gwasanaeth mwy aml yn ogystal â gwasanaeth uniongyrchol i Gasnewydd? (WAQ64708)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Nick Ramsay (Mynwy): Yn dilyn WAQ64288, a wnaiff y Gweinidog nodi faint o gyfleoedd gwaith a grëwyd gan Dwf Swyddi Cymru sydd hyd yma wedi arwain at swyddi parhaol neu at lefydd ar brentisiaethau. A wnaiff hefyd ddarparu ffigurau ar gyfer y nifer sy'n dal mewn swydd, y rheini sydd mewn hyfforddiant a'r rheini sy'n ddi-waith? (WAQ64697)

Nick Ramsay (Mynwy): Yn dilyn WAQ64289, a wnaiff y Gweinidog nodi pwy sydd ar Fwrdd Prosiect Twf Swyddi Cymru, a darparu teitlau swyddi holl aelodau Bwrdd y Prosiect? (WAQ64698)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau dyddiad cyhoeddi’r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddata IPFR, ar gyfer y cyfnod 2012 – 2013? (WAQ64701)

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud tuag at sefydlu system achredu asiantau cynllunio? (WAQ64703)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud i ddatblygu gwasanaeth cynghori a hyfforddi cenedlaethol ym maes cynllunio?  (WAQ64704)

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo’r Fargen Werdd yng Nghymru. (WAQ64705)