16/07/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 09 Gorffennaf 2008 i’w hateb ar 16 Gorffennaf 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o bobl a gyflogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y Rhyl ac ym Mae Colwyn. (WAQ52230)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y gwaharddiadau o ysgolion ar draws Cymru gyfan bob blwyddyn ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf gan ddadansoddi’r wybodaeth yn ôl plant rhwng 6 a 10 oed, rhwng 10 a 14 oed a rhwng 14 a 18 oed. (WAQ52205)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru ar atgyweirio eiddo ysgol oherwydd llosgi bwriadol ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52206)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru ar atgyweirio eiddo ysgol oherwydd fandaliaeth ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52207)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ52110, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer nifer y plant sy’n cael brecwast am ddim mewn ysgolion a chanran y plant ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn ers dechrau’r cynllun. (WAQ52208)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o leoedd ysgol gwag sydd ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu’r gwahaniaeth rhwng addysg gynradd ac addysg uwchradd. (WAQ52209)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i'r effaith y gallai’r gyfradd geni yng Nghymru ei chael ar leoedd ysgol gwag. (WAQ52210)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu ar gyfer Brecwast Am Ddim Mewn Ysgolion ar gyfer pob blwyddyn ers dechrau’r cynllun. (WAQ52211)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r dyddiad pan ymatebodd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Cyfnod Sylfaen. (WAQ52212)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu gwersi coginio yn ysgolion uwchradd Cymru.  (WAQ52213)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyfrannu unrhyw gyllid at adeiladu campws newydd ar gyfer Prifysgol Cymru, Casnewydd. (WAQ52214)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae sefydliadau Addysg Uwch Cymru’n annog entrepreneuriaeth. (WAQ52215)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau rhwng sefydliadau Addysg Uwch a busnesau yng Nghymru. (WAQ52216)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o ysgolion uwchradd sydd â chyfleusterau cegin i addysgu gwersi coginio ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. (WAQ52217)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn swyddogaethau addysgu yn ysgolion uwchradd Cymru.  (WAQ52218)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn swyddogaethau addysgu yn Ysgolion Cynradd Cymru.  (WAQ52219)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o Benaethiaid ysgolion uwchradd Cymru a fydd yn cyrraedd oed ymddeol cyn pen y deng mlynedd nesaf ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. (WAQ52220)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o Benaethiaid ysgolion cynradd Cymru a fydd yn cyrraedd oed ymddeol cyn pen y deng mlynedd nesaf ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. (WAQ52221)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am broffil oed Penaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru. (WAQ52222)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am broffil oed Penaethiaid ysgolion uwchradd yng Nghymru. (WAQ52223)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o’r arian sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gweithredu’r Cyfnod Sylfaen fydd yn cael ei wario ar hyfforddiant staff, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru. (WAQ52224)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o bobl a gyflogir yng Ngholegau’r Rhyl a Llandrillo. (WAQ52231)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y gwaharddiadau o ysgolion yn sir Benfro bob blwyddyn ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf gan ddadansoddi’r wybodaeth yn ôl plant rhwng 6 a 10 oed, rhwng 10 a 14 oed a rhwng 14 a 18 oed. (WAQ52203)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y gwaharddiadau o ysgolion yn sir Gaerfyrddin bob blwyddyn ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf gan ddadansoddi’r wybodaeth yn ôl plant rhwng 6 a 10 oed, rhwng 10 a 14 oed a rhwng 14 a 18 oed. (WAQ52204)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl digwyddiad o fandaliaeth ar eiddo ysgol a fu ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52232)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl digwyddiad o losgi bwriadol a fu mewn ysgolion ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52233) Trosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig gan yr Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion y gefnogaeth RSA a ddarparwyd hyd yn hyn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, fesul etholaeth. (WAQ52228)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wneud wardiau cymysg mewn sefydliadau iechyd meddwl yng Nghymru yn anghyfreithlon. (WAQ52225)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o ymosodiadau a fu ar gleifion ysbyty mewn wardiau cymysg ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52226)

Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth

Huw Lewis (Merthyr Tudful): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y Cynulliad i adeiladu canolfan gelfyddydau ym Merthyr Tudful. (WAQ52227)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion y prosiectau a gyllidwyd gan y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol hyd yn hyn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. (WAQ52229)