16/07/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Gorffennaf 2009 i’w hateb ar 16 Gorffennaf 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyddiad cyhoeddi arfaethedig canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Mynediad i addysg a chymorth i ddisgyblion ag anghenion meddygol’, ac am y trefniadau arfaethedig ar gyfer sicrhau y cânt eu rhoi ar waith. (WAQ54537)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barhau’r grant ysgolion bach ac am werth ysgolion bach i’r gymuned. (WAQ54538)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw’r Byrddau Iechyd Lleol newydd wedi cwblhau eu gofal argyfwng ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, a phryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu eu cyhoeddi. (WAQ54535)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gyda dementia yn cynyddu, pa ystyriaethau sydd wedi’u rhoi/sydd yn cael eu rhoi i sicrhau blaenoriaeth uwch i hyfforddiant mewn dementia ar y Cwrs Nyrsio Cyffredinol. (WAQ54536)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cynnydd mewn prisiau petrol ar incwm pensiynwyr yng Nghymru. (WAQ54534)