16/07/2014 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/04/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Gorffennaf 2014 i'w hateb ar 16 Gorffennaf 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y’u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i’r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon

Alun Ffred Jones (Arfon): O gofio bod eich rhagflaenydd wedi dweud bod y cynlluniau rheoli traethlin yn gwbl hanfodol, pryd bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i'w cadarnhau a'u cyhoeddi? (WAQ67393)W

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2014

Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon (John Griffiths):

Mae’r rhain yn gynlluniau pwysig a dylid eu hystyried yn eu cyd-destun. Mae fersiynau drafft ohonynt ar gael ar hyn o bryd, ac maent i gyd wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bwriadaf adolygu’r cynlluniau hyn yn ystod yr haf.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn ag unrhyw drafodaethau y mae ei adran wedi’u cynnal gyda chlwb pêl-droed Llanelli? (WAQ67394)W

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cynnal ynglyn â’r cyfleusterau sydd ar gael i chwarae pêl-droed yn ardal Llanelli? (WAQ67395)W

Derbyniwyd ateb ar 18 Gorffennaf 2014 (WAQ67394-5)

John Griffiths AC: Rwyf fi a’m swyddogion yn cydweithio â Chwaraeon Cymru, Pêl-droed yng Nghymru ac amrywiaeth o bartneriaid eraill ynghylch y cyfleusterau sydd ar gael i chwarae pêl-droed ledled Cymru gan gynnwys Llanelli a’r ardal ehangach.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â chyllido’r Ddraig Ffynci? (WAQ67396)W

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2014

Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (Jeff Cuthbert): Byddaf yn ysgrifennu atoch a chaiff copi o'r llythyr ei roi ar-lein.

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i hysbysu ffermwyr yng Nghymru ynghylch goblygiadau’r newidiadau o ran llacio’r rheolau lladd mewn perthynas â thagiau electronig i ddefaid o dan 12 mis yn Lloegr o fis Ionawr 2015 ymlaen? (WAQ67397)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pryd bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2014 ynghylch EIDCymru? (WAQ67398)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r goblygiadau i Gymru a ffermwyr Cymru a fydd yn deillio o’r newidiadau o ran llacio’r rheolau lladd mewn perthynas â thagiau electronig i ddefaid o dan 12 mis yn Lloegr o fis Ionawr 2015 ymlaen? (WAQ67399)

Derbyniwyd ateb ar 15 Gorffennaf 2014 (WAQ67397-9)

Y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd (Rebecca Evans): The Welsh Government has engaged throughout this process with the Welsh Livestock Identification Advisory stakeholder group (LIDAG) and has disseminated information about the slaughter derogation policy change in England and its potential impact on Welsh keepers.

Our intention is to communicate the Defra slaughter derogation policy changes to all sheep keepers in Wales alongside the distribution of the Annual Inventory forms in December 2014.

I will be issuing a written statement detailing the outcome of the EIDCymru and slaughter derogation consultation shortly, along with the summary of responses. This will take into consideration the potential consequences of different slaughter derogation policies in the other administrations and the impact on cross border trade.

 

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i fyrddau iechyd lleol mewn perthynas â darparu triniaeth llygaid? (WAQ67387)

Derbyniwyd ateb ar 15 Gorffennaf 2014

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): In 2010, the Welsh Government issued three Focus on Ophthalmology Patient Care Pathways to health boards. A fourth, a cataract pathway, was issued in 2014.

Welsh Government issued guidance on the use of Eyela for Wet AMD in 2013 and also issued the Together for Health: All Wales Eye Health Care Delivery Plan in September 2013.

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru amser aros targed ar gyfer llawdriniaethau cataract ac, os na, beth y mae'r Gweinidog yn ei ystyried i fod yn amser aros derbyniol ar gyfer llawdriniaeth cataract? (WAQ67388)

Derbyniwyd ateb ar 15 Gorffennaf 2014

Mark Drakeford: There is no specific waiting time target for cataract procedures.

Patients referred to the hospital eye service should receive an appointment in line with the 26 week referral to treatment waiting time target.

We expect all patients to be seen in a timely manner, and in order of their clinical need, which is a decision for the relevant clinician to make.

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o optometryddion ac arbenigwyr gofal llygaid sy'n cael eu cyflogi yn a) Cymru a b) pob bwrdd iechyd unigol, gan roi ffigurau ar gyfer pob blwyddyn dros y pum mlynedd ddiwethaf? (WAQ67389)

Derbyniwyd ateb ar 15 Gorffennaf 2014

Mark Drakeford: Optometrists are not directly employed by health boards. They are independent contractors providing NHS primary care services.

Please find below tables providing the numbers of optometrists and eye care specialists for the years 2009-2013:

 

 

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog egluro a fydd ei gyhoeddiad heddiw y bydd staff y GIG yn cael eu talu cyflog byw yn berthnasol i staff gofal cymdeithasol a staff a gyflogir gan gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau i'r GIG ar gontract? (WAQ67392)

Derbyniwyd ateb ar 22 Gorffennaf 2014

Mark Drakeford: I will write to you and a copy of the letter will be published on the internet.

 

Gofyn i'r Gweinidog Tai ac Adfywio

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru i gymdeithasau tai yng Nghymru mewn perthynas â thenantiaid a chytundebau tenantiaeth? (WAQ67390)

Derbyniwyd ateb ar 18 Gorffennaf 2014

Gweinidog Tai ac Adfywio (Carl Sargeant):  The Welsh Government provides the national framework for the allocation of accommodation and homelessness. This is the Code of Guidance for Local Authorities on Allocation of Housing and Homelessness Assistance 2012. Local authorities are required to have a published allocation scheme, which is in line with the national framework. This must be published and as part of its development, it must have been the subject of consultation.

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganllawiau swyddogol yn mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi o ran sut y mae cymdeithasau tai yn gwario arian ar adnewyddu eiddo, yn y sector llesddaliadau yn benodolŷ (WAQ67391)

Derbyniwyd ateb ar 18 Gorffennaf 2014

Carl Sargeant: The Regulatory Framework and Delivery Outcomes. The Council Tenants and Leaseholders stock transfer charter.