16/08/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Awst 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Awst 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r gwariant o dros £50 miliwn sydd wedi’i addo ar gyfer ffyrdd rhwng gogledd, gorllewin a de Cymru yn ystod y tymor Cynulliad hwn, y cyfeirir ato yn y cytundeb 'Cymru’n Un’, yn cynnwys y gwaith sydd wedi’i raglennu ar gyfer yr A40 a’r A477? (WAQ50286) Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid yw'r gwelliannau i'r A40 a'r A477 yn rhan o'r cynigion i wella'r llwybrau rhwng Gogledd, Gorllewin a De Cymru y cyfeirir atynt yn y Cytundeb ‘Cymru’n Un’. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o wariant a fydd yn parhau i fod yn wariant penodol ar gyfer y gwelliannau rhwng y gogledd a’r de ar yr A470 a’r A483? (WAQ50287) Ieuan Wyn Jones: Yn amodol ar gwblhau'r gweithdrefnau statudol yn foddhaol, y bwriad ar hyn o bryd yw gwario tua £140m a £50m ar gynlluniau'r A470 a'r A483, yn ôl eu trefn, ym mhob cam o Flaenraglen y Cefnffyrdd. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ailystyried y penderfyniad i ohirio creu ffordd osgoi y Bontnewydd ar Wy ar yr A470 o ystyried ei manteision o ran diogelwch a’r amgylchedd, a’r potensial i leihau’r gost yn sylweddol drwy ei chyfuno â’r gwelliannau rhwng Cwm-bach a’r Bontnewydd ar Wy? (WAQ50288) Ieuan Wyn Jones: Cyhoeddwyd y llwybr dewisol ar gyfer gwelliannau ar yr A470 rhwng Cwm-bach a’r Bontnewydd ar Wy ym mis Tachwedd 2005. Ni chafwyd cefnogaeth gref gan y cyhoedd ar gyfer ffordd osgoi y Bontnewydd ar Wy ac ar ôl cynnal gwerthusiad penderfynwyd na ellid ei chyfiawnhau. Dyma'r sefyllfa o hyd. Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i leddfu’r tagfeydd ym Mhorth Caerdydd? (WAQ50291) Ieuan Wyn Jones: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Caerdydd yw cylchfan Parc Busnes Porth Caerdydd a Chyffordd 30 yr M4. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio â Chyngor Caerdydd i wella'r gylchfan drwy gyflwyno goleuadau traffig. Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i leddfu tagfeydd yng ngoleuni’r gwaith a wneir i ehangu’r ffordd ar yr M4 ger Porth Caerdydd? (WAQ50292) Ieuan Wyn Jones: Yr oedd traffordd yr M4 yn brysur iawn yn ystod adegau brig hyd yn oed cyn i'r gwaith Lledaenu ddechrau. Er mwyn lleihau anghyfleustra i'r cyhoedd sy'n teithio ar y draffordd mae dwy lôn ar agor o hyd i bob cyfeiriad. Mae dau gerbyd achub penodedig ar y safle i sicrhau y gellir symud damweiniau neu geir sy'n torri i lawr yn gyflym. Deng munud yw'r amser ymateb cyfartalog. Cynhelir cyfarfodydd rheoli traffig yn rheolaidd, y mae'r heddlu yn mynd iddynt a chaiff effeithiolrwydd y mesurau rheoli traffig ei fonitro. Yn ogystal â hyn, mae gwelliannau yn cael eu datblygu ar y cyd â Chyngor Dinas Caerdydd er mwyn lleddfu'r problemau ym Mhorth Caerdydd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfianwder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ystyried dyrannu arian i’r Canolfannau Cyngor ar Bopeth i’w galluogi i gyflogi aelodau o staff proffesiynol ynghyd â gwirfoddolwyr presennol? (WAQ50295) Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Cyfrifoldeb yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yw darparu cyllid craidd i Ganolfannau Cyngor ar Bopeth ac nid yw'n fater datganoledig. Cânt gymorth ychwanegol gan Awdurdodau lleol a thrwy'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynrychiolwyr o Gymru sydd ar Fyrddau DU cwmnïau’r gwahanol sectorau sy’n perthyn i’r Sefydliad Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Levy Board UK)? (WAQ50290) Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Mae Darpar Gadeirydd Cwmni'r Sector Llaeth yn ffermio yng Nghymru ac mae un aelod arall hefyd yn dod o Gymru. O ran y bwrdd Grawnfwydydd a Hadau Olew, nid oedd ymgeiswyr o Gymru yn addas i'w penodi ac ni chafwyd dim ceisiadau o Gymru ar gyfer y byrddau Garddwriaeth a Thatws.