Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2007 i’w hateb ar 16 Hydref 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei harfarniad o Fathemateg Ffwythiannol mewn ysgolion. (WAQ50465)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru faint o ddeintyddion y GIG sy’n derbyn oedolion yn gleifion newydd ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. (WAQ50466)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaethau y mae’r Gweinidog wedi ei rhoi i gefnogi hyfforddiant cŵn cymorth awtistiaeth i blant ag awtistiaeth. (WAQ50464)
Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am stociau o’r brechiad rhag y ffliw y gaeaf hwn. (WAQ50467)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfarwyddebau gwasanaeth a chomisiynu ar gyfer cyflyrau niwrolegol yng Nghymru. (WAQ50468)
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru. (WAQ50469)