16/10/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 16 Hydref 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 16 Hydref 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl milltir o’r M4 yng Nghymru sydd dan derfynau cyflymder is na’r terfyn cyflymder cenedlaethol yn barhaol. (WAQ54980)

Rhoddwyd ateb ar 28 Hydref 2009

Ar hyn o bryd mae 2.63 o filltiroedd o'r M4 yng Nghymru â chyfyngiadau cyflymder parhaol o 50 mya.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad ariannol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o effaith Dyfarniad Grogan a beth yw’r gost ragamcanol ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol. (WAQ54975)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Ni wnaeth Dyfarniad Grogan na'r canllawiau a ddilynodd yn 2006 newid y sefyllfa gyfreithiol ar gymhwysedd ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG.

Mae gwariant Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn faes cymhleth. Mae sawl ffactor yn dylanwadu ar y costau cynyddol sy'n wynebu Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) gan gynnwys: oedran cynyddol y boblogaeth, mwy o unigolion sy'n dangos anghenion cymhleth, cyfraddau goroesi gwell i'r rhai sydd ag anghenion cymhleth, pa wasanaethau cymunedol sydd ar gael gan gynnwys ysbytai cymunedol a nifer y gwelyau gofal iechyd parhaus y GIG mewn ysbytai. Nid yw'n bosibl, yn ymarferol, i nodi effaith un ffactor yn benodol ar y patrwm gwario.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Cyn 1 Hydref 2009, a oedd gan Her Iechyd Cymru Gynlluniau Ad-dalu Ariannol ar waith, ac os oedd a) beth oedd lefel y ddyled i’w had-dalu, a b) faint sydd wedi cael ei ad-dalu ers rhoi’r cynllun ar waith. (WAQ54976)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Nid yw Her Iechyd Cymru erioed wedi cael 'Cynllun Ad-dalu Ariannol'.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Cyn 1af Hydref 2009, sawl Bwrdd Iechyd Lleol a oedd â Chynlluniau Ad-dalu Ariannol ar waith, ac ar gyfer pob un o’r Byrddau Iechyd Lleol hyn a) beth oedd lefel y ddyled i’w had-dalu, a b) faint sydd wedi cael ei ad-dalu ers rhoi’r cynllun ar waith. (WAQ54977)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Mae'r wybodaeth ar gael yng Nghyfrifon Cryno GIG Cymru 2008-09 yn Atodiad 4, Adennill Gorwariant Cronedig BILlau drwy'r ddolen ganlynol:  

http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm?act=dis&id=139191&ds=8/2009

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Cyn 1af Hydref 2009, sawl Ymddiriedolaeth (gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans) a oedd â Chynlluniau Ad-dalu Ariannol ar waith, ac ar gyfer pob un o’r rhain a) beth oedd lefel y ddyled i’w had-dalu, a b) faint sydd wedi cael ei ad-dalu ers rhoi’r cynllun ar waith. (WAQ54978)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Mae'r wybodaeth ar gael yng Nghyfrifon Cryno GIG Cymru 2008-09 yn Atodiad 4, Adennill Diffygion Ymddiriedolaethau ac Ailgyflunio Swyddi Cynorthwyo Strategol, drwy'r ddolen ganlynol:

http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm?act=dis&id=139191&ds=8/2009

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed. (WAQ54979)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Cyhoeddwyd y cynllun gweithredu ar hepatitis feirysol a gludir yn y gwaed er mwyn ymgynghori arno ar 1 Ebrill. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Gorffennaf a dadansoddwyd yr ymatebion. Byddaf yn cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad ac yn penderfynu ar y ffordd ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth oedd y canlyniadau a’r gwersi allweddol a ddysgwyd o’r Adolygiad i Arweinyddiaeth a Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Lleol Caerdydd. (WAQ54981)

Rhoddwyd ateb ar 19 Hydref 2009

Fe'ch cyfeiriaf at fy ymateb dyddiedig 22 Medi. Nododd yr adolygiad amrywiaeth o faterion arweinyddiaeth a llywodraethu, a oedd yn cynnwys rheoli cydberthnasau cymhleth â phartneriaid, trefniadaeth fewnol y Bwrdd Iechyd Lleol a chomisiynu rolau a'u heglurder o fewn y tîm rheoli.