Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 09 Rhagfyr 2009 i’w hateb ar 16 Rhagfyr 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am drafodaethau y mae ef neu ei swyddogion wedi’u cael ynghylch rhewi pris y tollau dros Bont Hafren yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi tollau dros Bont Humber. (WAQ55288)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau NICE diweddar i roi proses ar waith i adnabod clefyd Coeliac. (WAQ55284)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch cynnal profion am glefyd Coeliac ymysg grwpiau risg uchel megis cleifion gydag Afiechyd Coluddyn Llidus (IBS), Diabetes ac Awtistiaeth. (WAQ55285)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y problemau o ran yr oedi posibl wrth ddiagnosio ac yna trin clefyd Coeliac. (WAQ55286)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint mae'r Adran Iechyd wedi’i wario ar (a) ymgynghorwyr, (b) hysbysebu, (c) cyhoeddi, (d) cysylltiadau cyhoeddus, (e) hyfforddiant proffesiynol ac (f) gweithgareddau eraill ar bob ymgyrch hybu iechyd (i) a redwyd gan yr Adran a (ii) a gomisiynwyd gan yr Adran i sefydliadau eraill, yn (A) 2005-06, (B) 2006-07, (C) 2007-08 a (D) 2008-09; a pha sefydliadau wnaeth redeg pob ymgyrch os nad yr Adran wnaeth hynny. (WAQ55287)
Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth yn helpu i ddatblygu polisi o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ55821)
Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r newyddion diweddaraf am y cynnydd o ran gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Gwasanaethau Mamolaeth. (WAQ55822)
Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth yn helpu i lunio’r cynlluniau Plant a Phobl Ifanc ledled Cymru. (WAQ55823)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau p’un ai a fydd ffermwyr sydd wedi'u cofrestru ar y cynllun Tir Gofal yn rhwym wrth reolau cyllido deuol yr UE pan fydd y cynllun Glastir yn dod i rym. (WAQ55289)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau p’un ai a fydd ffermwyr sy’n dewis y trefniadau trosiannol o fewn Echel 2 Cynllun Datblygu Gwledig 2007-13, sy’n gysylltiedig â lansiad y cynllun Glastir, yn rhwym wrth reolau cyllido deuol yr UE pan fydd y cynllun Glastir yn dod i rym. (WAQ55290)