Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Rhagfyr 2011 i’w hateb ar 16 Rhagfyr 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut bydd y Gweinidog yn sicrhau bod pob plentyn ysgol yn gallu cael profiadau dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth yn rheolaidd. (WAQ58465)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y gallai’r ddau fand isaf ar gyfer ysgolion wagio wrth i berfformiad ysgolion wella. (WAQ58467) W
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael i ysgolion yn y ddau fand isaf. (WAQ58468) W
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut bydd y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn cael ei gweithredu yn ymarferol. (WAQ58469) W
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amserlen a fframwaith pendant ar gyfer y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. (WAQ58470) W
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Sut byddwch chi’n sicrhau na fydd diwedd y Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol yn cael effaith negyddol ar bobl hyn a phobl anabl. (WAQ58466)