17/01/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Ionawr 2011 i’w hateb ar 17 Ionawr 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sawl un o'r pumdeg wyth benthyciad ar gyfer beiciau modur/ceir a gynigwyd i aelodau staff fel rhan o'r pecyn adleoli i Ferthyr Tudful sydd wedi cael ei ddiddymu, gan nodi gwerth unrhyw fenthyciadau a ddiddymwyd. (WAQ56921)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu p'un ai a oedd y grant diweddar a roddwyd i Brifysgol Bangor yn cynnwys cyllid i ddatblygu prawf sgrinio Cymraeg newydd ar gyfer dyslecsia. (WAQ56906)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer pob llinell wariant yn y gyllideb sy'n cynnwys datblygiad cyfalaf ar gyfer ysgolion, naill ai'n uniongyrchol neu drwy awdurdodau lleol, a wnewch nodi faint a wariwyd yn y tair blynedd ariannol ddiwethaf a faint sydd yn y gyllideb i'w wario yn y tair blynedd ariannol nesaf. (WAQ56920)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at ateb y Gweinidog i WAQ56837, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r costau sy'n gysylltiedig â datblygiad y Parc Awyrofod yn Sain Tathan, gan roi cyfansymiau ar gyfer ffioedd proffesiynol, ffioedd prynu tir a chostau datblygu cyffredinol. (WAQ56910)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y seilwaith priodol yn bodoli yn y Canolbarth i hwyluso cyfleoedd cyflogaeth sy'n deillio o ddatblygiadau ynni gwynt. (WAQ56911)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cwmnïau sydd am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn y Canolbarth yn cael eu denu i'r ardal yn hytrach na mynd â'u busnes i rannau eraill y DU. (WAQ56912)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A chofio'r penderfyniad gan Siemens i gau ei ffatri yn y Drenewydd, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r cwmni. (WAQ56914)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): Pa bryd y rhoddwyd yr astudiaeth o effaith economaidd Tollau Pont Hafren allan i dendr. (WAQ56916)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): Beth yw cylch gorchwyl yr astudiaeth y mae'r Gweinidog yn ei chomisiynu ar effaith economaidd Tollau Pont Hafren. (WAQ56917)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): A yw'r contract ar gyfer yr astudiaeth o effaith economaidd Tollau Pont Hafren wedi'i ddyfarnu, ac os felly, pa bryd y digwyddodd hyn a phwy oedd yn llwyddiannus. (WAQ56918)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A yw'r Gweinidog dros yn dal i gredu y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru gyflawni ei thargedau ynni adnewyddadwy yn y Canolbarth. (WAQ56908)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A yw'r Gweinidog yn fodlon bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud ei gorau glas i gefnogi Cynghorau i gyflawni'r polisi TAN 8. (WAQ56909)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cwmnïau arbenigol yn echdynnu gwastraff polystyren o finiau gwastraff cyffredinol/gweddilliol Cynghorau Sir, sy'n golygu bod y gwastraff wedyn yn mynd i Tsieina i'w ailbrosesu yn hytrach nag i safleoedd tirlenwi. (WAQ56913)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y system gynllunio yn gallu cefnogi ei blaenoriaethau ar ynni adnewyddadwy. (WAQ56915)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): O ran cyfanswm ac mewn canran, faint mae'r Gweinidog yn disgwyl ei arbed o'r prosiect i sicrhau bod Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn gweithio'n agosach. (WAQ56922)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gyngor/canllawiau y mae ei hadran wedi'u rhoi i awdurdodau cynllunio ynghylch gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio sy'n cyfeirio'n benodol at brosiectau ynni solar adnewyddadwy ar dir ffermio. (WAQ56923)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda'i swyddogion ac ymarferwyr ynghylch cynnwys yr 'Ymgynghoriad ymysg pobl ifanc Cymru ar Hunanladdiad a Cheisio Help' a gynhaliwyd gan Mind Cymru ym mis Tachwedd 2010. (WAQ56907)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwisgoedd newydd i nyrsys y GIG ledled Cymru a'r costau cysylltiedig. (WAQ56919)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau p'un ai a oes arolwg staff ar waith yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac, os felly, pa bryd y caiff yr un nesaf ei gyhoeddi. (WAQ56924)