17/03/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Mawrth 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Mawrth 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth danfon post a ddefnyddir gan y Cyrff Cyhoeddus Anadrannol y mae’n gyfrifol amdanynt, yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53650)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid wyf yn gyfrifol am unrhyw Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad (CNLCau).

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Nawr bod Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig wedi torri gwasanaethau o Wrecsam, sut bydd y Gweinidog yn mynd i’r afael â’r arfer o ddefnyddio cerbydau â chymhorthdal ar y daith rhwng Aberystwyth a Llundain ar draul Wrecsam? (WAQ53673)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae’r cynnig i gyflwyno gwasanaethau rhwng Aberystwyth a Llundain yn fater masnachol sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Drenau Arriva Cymru. Ni fyddai unrhyw wasanaeth yn derbyn cymhorthdal cyhoeddus.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y damweiniau angheuol, nifer y damweiniau difrifol a nifer y mân ddamweiniau ar ffyrdd Cymru ym mhob mis er mis Ionawr 2009? (WAQ53674)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid oes ffigurau ar gyfer damweiniau traffig ffyrdd ac anafiadau yn ystod chwarter cyntaf 2009 ar gael eto. Caiff data dros dro ar gyfer chwarter cyntaf 2009 ei gyhoeddi ym mis Awst 2009.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl mân ddamwain, damwain ddifrifol a damwain angheuol sydd wedi digwydd ar yr A55 ym mhob blwyddyn er 2005? (WAQ53680)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2005 a 31 Rhagfyr 2007 roedd 295 o wrthdrawiadau ar yr A55. Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad ffigurau blynyddol a difrifoldeb y gwrthdrawiadau.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Mawrth 2009

Blwyddyn

Angheuol

Difrifol

Bach

Cyfanswm

2005

4

7

83

94

2006

4

8

85

97

2007

7

13

84

104

Cyfanswm

15

28

252

295

Nid yw data 2008 ar gael.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl waith ffordd a wnaethpwyd ar yr A55 ym mhob blwyddyn er 2005? (WAQ53681)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae 2 restr wedi’u cyhoeddi fel atodiadau ar wahân i’r ffeil hwn sy’n dangos gwaith ffordd a gyflawnwyd ar dir mawr yr A55 a gwaith Dylunio, Adeiladu, Ariannu a Gweithredu ar yr A55 ar draws Ynys Môn yn ystod 2006, 2007, 2008 a 2009. Nid yw’r rhestrau’n cynnwys gwaith cynnal a chadw cylchredol a wneir ddwy waith y flwyddyn (pythefnos ym mis Mehefin a phythefnos ym mis Medi), nac ychwaith atgyweiriadau adweithiol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth danfon post a ddefnyddir gan y Cyrff Cyhoeddus Anadrannol y mae’n gyfrifol amdanynt, yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53665)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae ystadegau ar werth y gwasanaeth post a ddefnyddiwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gael o 2002-03 i 2007-08. Mae’r tabl isod yn dangos gwariant blynyddol y Cyngor Cyllido Addysg Uwch ar bost yn ystod y blynyddoedd hyn.

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cadw manylion am nifer y dosbarthiadau post.

CYNGOR CYLLIDO ADDYSG UWCH CYMRU

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Mawrth 2009

COSTAU POSTIO

 
 

£

2002-03

7,288

2003-04

4,809

2004-05

7,842

2005-06

956

2006-07

7,158

2007-08

3,546

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am addysg Gynradd ar Ynys Môn? (WAQ53675)

Jane Hutt: Derbyniais un llythyr ym mis Hydref 2007 yn ymwned â rhesymoli Ysgolion Cynradd yn Ynys Môn.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am addysg Uwchradd ar Ynys Môn? (WAQ53676)

Jane Hutt: Nid wyf wedi derbyn unrhyw sylwadau dros y 2 flynedd ddiwethaf yn ymwneud ag addysg uwchradd yn Ynys Môn.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer yr Ysgolion Cynradd yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi fesul ardal awdurdod addysg lleol? (WAQ53683)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer yr Ysgolion Uwchradd yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi fesul ardal awdurdod addysg lleol? (WAQ53684)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer yr Ysgolion Meithrin yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi fesul ardal awdurdod addysg lleol? (WAQ53685)

Jane Hutt: Nodir y wybodaeth a geisiwyd yn y tablau a gyhoeddwyd fel atodiadau i’r ffeil hwn.

Nick Ramsay (Mynwy): Pryd gafodd y cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion ei archwilio diwethaf o ran (i) gwerth am arian, (ii) effeithiolrwydd o ran lleihau tlodi plant, a beth oedd canlyniadau’r archwiliad hwnnw? (WAQ53705)

Jane Hutt: Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol gan Athrofa y Gymdeithas, Iechyd a Moeseg Caerdydd. Casglodd y gwaith ymchwil fod y fenter hon yn ddull effeithiol o bosibl o wella ymddygiad dietegol y boblogaeth yn yr hirdymor; o ystyried bod llawer o’r gwobrau cynhenid ac ymddygiadau arferol sy’n gysylltiedig â bwyta yn datblygu ar yr oedran hwn. Roedd yn effeithiol o ran hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at frecwast sy’n cynrychioli targedau cyfryngu pwysig ar gyfer ymyriadau dietegol sydd wedi’u hanelu at blant. Gallwch weld y canfyddiadau drwy wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/learningproviders/Schools/foodanddrink/breakfastinitiative/evaluation/

Yn ychwanegol, o fis Ionawr eleni, cesglir data am yr ysgolion a’r disgyblion sy’n cymryd rhan yn y fenter drwy CYBLD. Bydd y wybodaeth hon yn ein galluogi i gynnal dadansoddiad o’r niferoedd sy’n rhan o’r fenter brecwast am ddim sydd hefyd yn cael prydau ysgol am ddim; ni chasglwyd y wybodaeth hon gynt.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth danfon post a ddefnyddir gan y Cyrff Cyhoeddus Anadrannol y mae’n gyfrifol amdanynt, yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53656)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Nid wyf yn gyfrifol am unrhyw Gyrff Cyhoeddus Anadrannol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa wasanaethau a ddarperir drwy rwydwaith Swyddfa’r Post yn y meysydd yr ydych yn gyfrifol amdanynt? (WAQ53657)

Andrew Davies: Nid wyf yn gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaethau penodol drwy rhwydwaith Swyddfa’r Bost.

Nick Ramsay (Mynwy): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar bwffes ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53702)

Andrew Davies: Ni chedwir y wybodaeth am wariant bwffe Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ganolog.

Nick Ramsay (Mynwy): Faint o wastraff bwyd a waredir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53708)

Andrew Davies: Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog ar hyn o bryd. Nod prosiect Draig Werdd Llywodraeth Cynulliad Cymru yw lleihau gwastraff 5% a chynyddu’r gwastraff a ailgylchir i 80% erbyn 2010.

Fel rhan o’r broses o roi’r prosiect hwn ar waith mae abwydfa wedi ei chyflwyno yn y swyddfa ym Merthyr Tudful. Bydd yr abwydfa yn cynhyrchu bwyd i blanhigion a chompost organig bio-gyfoethog a gaiff ei ddefnyddio i wella safon y pridd ar dir swyddfa Merthyr Tudful. Os bydd hwn yn llwyddiannus caiff ei gyflwyno yn y swyddfeydd newydd yn Aberystwyth ac yng Nghyffordd Llandudno hefyd.

Mae cynllun gwahanu gwastraff bwyd a chompostio hefyd yn cael ei brofi ar ein prif safle ym Mharc Cathays.

Fel rhan o gyflwyno system reoli amgylcheddol y Ddraig Werdd i ystâd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2009, bydd y swyddfeydd i gyd yn ystyried ffyrdd o leihau’r gwastraff bwyd sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth danfon post a ddefnyddir gan y Cyrff Cyhoeddus Anadrannol y mae’n gyfrifol amdanynt, yn ôl cyfaint a gwerth ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ53668)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Nid yw’r Adran Materion Gwledig yn gysylltiedig ag unrhyw Gyrff Cyhoeddus Anadrannol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa wasanaethau a ddarperir drwy rwydwaith Swyddfa’r Post yn y meysydd yr ydych yn gyfrifol amdanynt? (WAQ53669)

Elin Jones: Nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y gwasanaethau a ddarperir gan fy mhortffolio a rhwydwaith Swyddfa’r Post. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod gwasanaethau Swyddfa’r Post wrth wraidd cymunedau gwledig ac mae’r Adran Materion Gwledig yn ymrwymedig i gefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy.