17/03/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Mawrth 2009 i’w hateb ar 17 Mawrth 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Ar ba sail y gall awdurdod lleol gau ysgol. (WAQ53723)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n diffinio "lle gwag”. (WAQ53724)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A oes gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ddangos eu bod wedi pwyso a mesur atebion eraill cyn dechrau cau ysgol. (WAQ53725)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r broses statudol y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei chwblhau cyn cau ysgol. (WAQ53726)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa geisiadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael yn ddiweddar gan Gyngor Sir Caerdydd ar gyfer gwella ysgolion. (WAQ53730)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Sawl ysgol yng Nghymru sydd wedi cael (a) ei hadeiladu; (b) ei chau; (c) ei hailadeiladu; er 1999. (WAQ53732)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod pa gamau y mae wedi’u cymryd o ran ailddatblygiad arfaethedig safle’r Hen Swyddfa Bost yn Aberystwyth. (WAQ53729)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adolygiad ynghylch cyllid Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer cyfleusterau toiledau ar rwydwaith Cefnffyrdd Cymru, gan gyfeirio'n benodol at gefnffyrdd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. (WAQ53736)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa arweiniad y mae'r Gweinidog wedi'i gyhoeddi ar gyfer awdurdodau lleol yn ymwneud â chyfran y ceisiadau cynllunio y dylai swyddogion awdurdod lleol benderfynu arnynt yn hytrach na phwyllgorau cynllunio. (WAQ53733)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw’r arbedion effeithlonrwydd gwirioneddol y mae gofyn i bob Ymddiriedolaeth GIG a Bwrdd Iechyd Lleol eu gwneud yn y flwyddyn ariannol gyfredol. (WAQ53719)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfarwyddiadau y mae’r Gweinidog wedi’u cyhoeddi ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG er 2007. (WAQ53720)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gostau ychwanegol sydd wedi codi yn sgil bwrw ymlaen â’i chynllun i ailstrwythuro’r GIG. (WAQ53721)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth oedd cyfanswm y gost ychwanegol o uno’r Ymddiriedolaethau GIG i greu Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda. (WAQ53722)

Nick Ramsay (Mynwy): Sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod oedolion ag awtistiaeth yn cael yr un lefel o gefnogaeth â phlant a phobl ifanc. (WAQ53727)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa arbedion costau a/neu effeithlonrwydd, mewn ffigurau gwirioneddol, y mae gofyn i bob corff GIG eu gwneud yn ystod blwyddyn ariannol 2009/10. (WAQ53734)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu gwaith yr Uned Cefnogi Presgripsiynu Dadansoddol Cymru hyd yma. (WAQ53735)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl benderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Iechyd y Cynulliad er 1999, yn ogystal â nodi’r costau gwirioneddol i gyrff y GIG o ganlyniad i’r penderfyniadau hynny.  (WAQ53737)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa Awdurdodau Lleol sydd/a oedd wedi buddsoddi arian gyda Bernard Madoff neu gwmni sy’n cael ei redeg ganddo/y mae’n berchen arno, ac o’r rheini a wnaeth fuddsoddi, faint o arian y maent wedi’i golli. (WAQ53715)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi’i wneud o ran gweithredu ymrwymiad Cymru’n Un i ddarparu cymorth ychwanegol i bensiynwyr gyda’r Dreth Gyngor. (WAQ53718)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn ateb y Gweinidog i gwestiwn WAQ53525, a oes gan y Gweinidog gynlluniau i gynyddu’r trothwy Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ymhellach i helpu busnesau bach yn y dirwasgiad presennol. (WAQ53728)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfran o gyllideb Cyngor Sir Caerdydd sydd wedi'i chodi drwy’r dreth gyngor, ym mhob blwyddyn ariannol er 1999. (WAQ53731)