17/03/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Mawrth 2010 i’w hateb ar 17 Mawrth 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y caiff arweiniad manwl yn erbyn bwlio homoffobig ar gyfer ysgolion ei ryddhau, ac a wnaiff hefyd gadarnhau pryd y bydd yr arolwg manwl am fwlio mewn ysgolion (a grybwyllwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 23ain Medi 2009) yn cael ei ryddhau. (WAQ55866)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael ynghylch diogelu dyfodol purfa olew Chevron yn sir Benfro. (WAQ55861)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda'r Trysorlys ynghylch Cyllid Cymru. (WAQ55871)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Cyllid Cymru. (WAQ55872)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pryd y bydd canlyniadau ymgynghoriad y Strategaeth Tlodi Tanwydd yn hysbys a pha adnoddau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y mae'r Gweinidog yn fodlon eu hymrwymo i ddileu tlodi tanwydd. (WAQ55864)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A yw'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yng Nghymru wedi cael ei gyhoeddi ac os felly, pryd y cafodd ei roi ar waith yn ffurfiol. (WAQ55865)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad ei swyddogion at waith yr Adran Iechyd ar wella'r cyflenwad o feddyginiaethau. (WAQ55868)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol sydd ar gael ar gyfer ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi dioddef artaith. (WAQ55869)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Phrif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ynghylch targedau amseroedd ymateb ambiwlansiau. (WAQ55873)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd y cafodd y Gweinidog wybod y byddai Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhoi'r gorau i'w swydd. (WAQ55874)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd oedd cyfarfod diwethaf y Gweinidog gyda Phrif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. (WAQ55875)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa feini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer y penderfyniad i dynnu cyllid craidd yn ôl gan Glymblaid Genedlaethol Menywod Cymru. (WAQ55862)

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ailystyried a newid ei benderfyniad i dynnu cyllid craidd yn ôl gan Glymblaid Genedlaethol Menywod Cymru. (WAQ55863)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi'r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid ar waith. (WAQ55867)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y caiff y gwasanaethau a ddefnyddir gan ffoaduriaid eu mapio a'u monitro yng Nghymru. (WAQ55870