17/07/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2008 i’w hateb ar 17 Gorffennaf 2008

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro sut y mae’r adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru yn ystyried swyddogaeth y sector elusennau. (WAQ52234)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o safonau addysgu ar sail arolygiadau Estyn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru ac ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ52238)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o safonau addysgu ar sail arolygiadau Estyn mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ52239)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o lefelau triwantiaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ52240)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau rhwng sefydliadau Addysg Uwch a’r sector gwirfoddol. (WAQ52241)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o lefelau triwantiaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru ac ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ52242)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn ymrwymiad y Gweinidog i sefydlu ‘grwp gweithredu’ yn dilyn methu gwerthu safle Dolgarrog i ystyried dewisiadau ar gyfer dyfodol y safle: (a) a gafodd y grwp hwn ei sefydlu; (b) pwy oedd yr aelodau a (c) beth oedd eu cynigion. (WAQ52235)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud unrhyw ymrwymiad ariannol mewn perthynas â gwerthu safle Dolgarrog ac, os felly, pa lefel o gyllid a ystyrir.  (WAQ52236)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gyfrifoldeb ariannol dros y gwaith a wnaethpwyd gan weinyddwyr Alwminiwm Dolgarrog, ac os oes perthynas ariannol rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a KPMG beth yw graddfa’r ymrwymiadau a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ52237)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ddewisiadau sydd yn awr yn cael eu hystyried fel llwybrau amgen ar gyfer gwella’r A458 rhwng Buttington Cross a Woollaston Cross o ganlyniad i fethiant yr Asiantaeth Priffyrdd i ariannu rhan o’r llwybrau a ffafriwyd yn flaenorol. (WAQ52243)

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cael yr Astudiaeth Modelu Amserlennu newydd gan Network Rail, ac a wnaiff ei darparu ar gyfer Aelodau. (WAQ52244)