Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Tachwedd 2009 i’w hateb ar 17 Tachwedd 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, ar wahân, sawl unigolyn ym mhob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru sydd wedi llwyddo i gael cyllid ReAct ym mhob mis ers iddo gael ei gyflwyno. (WAQ55126)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, ar wahân, sawl unigolyn a busnes yng Ngogledd Cymru sydd wedi llwyddo i gael cyllid ProAct ym mhob mis ers iddo gael ei gyflwyno. (WAQ55127)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob ymchwiliad a gynhaliodd Estyn i’r Cyfnod Sylfaen yn ystod y 12 mis diwethaf. (WAQ55131)
Gofyn i’ Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y staff a gyflogwyd yn nhimau amddiffyn rhag llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf. (WAQ55130)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a welwyd perfformiad gorau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran cyrraedd targedau ym mis Medi 2009 ers llunio’r targedau. (WAQ55132)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer pob blwyddyn er 2006/07, a wnaiff y Gweinidog roi ffigurau am sawl gwaith y defnyddiwyd eiddo’r GIG at ddibenion preifat a chyfanswm y taliadau cydnabyddiaeth a gafwyd. (WAQ55134)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw’n bwriadu dilyn enghraifft yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a rhoi hawl gyfreithiol i gleifion gael gofal preifat am ddim os nad ydynt yn cael y driniaeth y mae ei hangen arnynt gan GIG Cymru cyn pen cyfnod o 18 mis. (WAQ55135)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, ar wahân, cost gyfartalog prosesu un hawliad Taliad Sengl ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ55128)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd am adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o fiwrocratiaeth yn y diwydiant ffermio. (WAQ55129)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi ar gyfer y Bond Plant, wedi’i ddadansoddi yn ôl lefel neu lefelau’r cyllid a bennir a’r meini prawf a ddefnyddir i bennu pa blant sy’n cael pa lefel, a pha gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i godi neu ostwng y lefelau hyn. (WAQ55133)