17/12/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 17 Rhagfyr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 17 Rhagfyr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pryd fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Bwlch Cyllido ar gyfer 2007/2008 Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. (WAQ55292)  Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau (Leighton Andrews): Caiff y dadansoddiad o'r Bwlch Cyllido mewn perthynas ag Addysg Uwch ei lunio gan CCAUC ac mae'n darparu cymhariaeth o lefelau ariannu yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.  Cyflwynir y dadansoddiad fel cyngor cyfrinachol i'r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a chaiff ei gyhoeddi gan CCAUC unwaith y rhoddir cymeradwyaeth Weinidogol i wneud hynny.  Roedd yr adroddiad diweddaraf a gynhyrchwyd gan CCAUC yn ymdrin â'r flwyddyn academaidd 2006/07 a chafodd ei gyflwyno ar gyfer ystyriaeth Weinidogol ym mis Tachwedd 2008.  Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn bellach gan CCAUC ac mae ar gael ar ei wefan.  

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa fath o danwydd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofynion gwresogi Datblygiad Tai Cymdeithasol Treletert, sy’n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Dai Sir Benfro. (WAQ55293) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Mae Cymdeithas Dai Sir Benfro wedi dewis defnyddio tanwydd Calor Gas gan nad oes prif gyflenwad nwy ar gael.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw amserlen Grŵp Monitro Gwerthuso Swyddi Cymru ar gyfer cwblhau ei brofion cysondeb o’r canlyniadau afreolaidd cyfatebol yn Agenda ar gyfer Newid. (WAQ55291)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Nid oes amserlen benodol i'r gwaith hwn.  Ar hyn o bryd caiff y wybodaeth berthnasol ei cheisio gan y partïon, ac unwaith y bydd hon ar gael gellir cwblhau'r gwaith gwirio cysondeb.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gyllid sy’n cael ei wario’n benodol ar Awdurdod Iechyd Arbennig Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblannu’r GIG yn y flwyddyn ariannol hon. (WAQ55294)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Yn dilyn fy ateb blaenorol i WAQ55181, rwyf wedi penderfynu darparu cyfanswm o £0.593 i wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG y flwyddyn ariannol hon.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cyfradd oroesi cleifion yng Nghymru sy’n cael eu derbyn i ysbyty ar ôl cael trawiad ar y galon.  (WAQ55295)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r amser aros ar hyn o bryd yng Nghymru ar gyfer cleifion sy’n ddibynnol ar rywun yn rhoi organ o Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.  (WAQ55296)

Rhoddwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2009

Nid ydym yn gweithredu targedau amseroedd aros ar gyfer cleifion sydd ar restr aros ar gyfer rhoi organau.  Mae'r cyfnod y mae cleifion unigol yn aros cyn cael llawdriniaeth drawsblannu yn amrywio'n fawr, ac mae'n dibynnu ar anghenion clinigol penodol y cleifion a pha organau sydd ar gael i'w trawsblannu.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i ysgogi ymdrechion ymchwil i glefyd Alzheimers a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â demensia yng Nghymru. (WAQ55297)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Mae Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (WORD) yn ariannu Rhwydwaith Ymchwil Clefydau Demensia a Chlefydau Niwroddirywiol Cymru (NEURODEM Cymru), sy'n hyrwyddo gwaith ymchwil i Alzheimers a chlefydau eraill sy'n gysylltiedig â demensia.  .  

Mae WORD hefyd yn darparu cymorth ac arian i sefydlu Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma'r cyfleuster cyntaf yn y DU sy'n harneisio'r chwyldro geneteg ar gyfer ymchwil i anhwylderau meddwl ac mae'n cynnwys rhaglen ymchwil sy'n canolbwyntio ar anhwylderau ymennydd dirywiol megis Alzheimers. At hynny mae WORD hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd ariannu eraill i ymchwilwyr yng Nghymru ac mae'n croesawu ceisiadau oddi wrth ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn Alzheimers a chlefydau sy'n gysylltiedig â demensia. Mae WORD wedi cefnogi nifer o brosiectau ymchwil i demensia a materion gofal cymdeithasol cysylltiedig drwy'r cynlluniau ariannu cystadleuol hyn yn y gorffennol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cyfraddau goroesi cleifion sydd wedi cael canser y fron yng Nghymru, ac yn ystadegol, ymhle mae Cymru o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. (WAQ55298)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Mae gwybodaeth am oroesi canser ar gael i'r cyhoedd, wedi'i chyhoeddi gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn eu hadroddiadau 'Canser yng Nghymru, 1992-2006: adroddiad cynhwysfawr'. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth fanwl gan gynnwys cyfraddau goroesi am 5 mlynedd a rhai cymariaethau â gwledydd eraill, yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=242&pid=33893

Mae adroddiad diweddar ond llai manwl 'One year relative survival in Wales, 1992-2006' hefyd ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=242&pid=35542

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad manwl o gyfraddau goroesi cleifion sy’n dioddef canser a chlefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru. (WAQ55299)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Cyfeiriaf at fy atebion i WAQ55295 a WAQ55298.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o feddygon sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd yng Nghymru. (WAQ55300)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Caiff niferoedd y staff meddygol mewn ysbytai, staff iechyd cyhoeddus/cymunedol a meddygon teulu sy'n gweithio yn y GIG eu cyhoeddi yn StatsCymru yn y wefan ganlynol: www.statswales.wales.gov.uk

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, yn enwedig ymhlith lleiafrifoedd ethnig. (WAQ55301)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Rwyf wedi darparu arian i gefnogi'r ymgyrch gyhoeddusrwydd Rhodd Cymru - Dywed wrth Rywun Agos. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn darparu arian i wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, Awdurdod Iechyd Arbennig sydd â rôl o hyrwyddo'r broses o roi organau a Chofrestr Rhoi Organau'r DU.  Mae gweithgaredd Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn targedu grwpiau anodd eu cyrraedd yn benodol megis grwpiau lleiafrifoedd ethnig ledled y DU.

Bwriad gweithredu argymhellion Tasglu Rhoi Organau'r DU yng Nghymru yw mynd i'r afael â'r rhwystrau presennol i roi organau megis agweddau a lefelau cofrestru is mewn rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig.  Mae'r gwaith hwn a'r gwaith rwyf yn ei hyrwyddo ar dybio cydsyniad yn hyrwyddo'r neges sylfaenol bod rhoi organau yn ddigwyddiad arferol, nid anarferol, i bob un ohonom ac y dylai'r drafodaeth am roi organau fod yn rhan arferol o ofal diwedd bywyd.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o gynlluniau sydd wedi cael eu cyflwyno i'r cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru ers iddo gael ei sefydlu, a sawl un sydd wedi cael ei gymeradwyo hyd yn hyn. (WAQ55302)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Cyflwynwyd 1,550 o gynlluniau i Goetiroedd Gwell i Gymru ers iddo ddechrau ac mae 612 o gynlluniau wedi'u cymeradwyo hyd yma.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gyfran o’r gyllideb grant a neilltuwyd ar gyfer Coetiroedd Gwell i Gymru sydd wedi’i wario ym mhob blwyddyn ers iddo gael ei sefydlu a beth oedd y gyllideb ar gyfer pob blwyddyn. (WAQ55303)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Gweler y tabl isod:

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 17 Rhagfyr 2009

Blwyddyn Ariannol

Cyllideb

Gwariant

Cyfran y gyllideb a wariwyd

07/08

£1,350,000

£1,100,900

82%

08/09

£2,400,000

£2,642,731

110%

09/10

£3,200,000

*£925,813

29%

(* Fodd bynnag, ymrwymwyd £3,553,811 i'w wario yn 09/10)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o'r grantiau a ymrwymwyd ar gyfer y cynlluniau hynny sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru yn seiliedig ar (i) plannu o’r newydd, (ii) seilwaith a (iii) gweithrediadau coedamaeth. (WAQ55304)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Y grantiau a dalwyd hyd yma ar gyfer y gweithgareddau hyn yw:

(i) Plannu Newydd - £297,251

(ii) Seilwaith - £1,021,212

(iii) Gweithrediadau Coedamaeth - £144,707

Y swm a ymrwymwyd yw:

Plannu Newydd - £833,457

Cyfanswm y Grant Gwella Coetiroedd a ymrwymwyd ar gyfer gwaith coedamaeth/amgylcheddol yw £6,224,938.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r holl geisiadau i’r cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru yn seiliedig ar y math o gwsmer, yn cynnwys maint y daliad a nifer y coetiroedd fferm. (WAQ55305)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Gweler y tablau isod:

Coetiroedd nad ydynt ar ffermydd

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 17 Rhagfyr 2009

Math o Gwsmer

Nifer yr ymgeiswyr

Maint ar Gyfartaledd (hectarau)

Deiliad busnes

156

108.79

Arall

46

73.16

Deiliad personol

607

35.07

Perchnogaeth gyhoeddus

79

33.42

Sefydliad gwirfoddol

69

38.23

Coetiroedd Fferm

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 17 Rhagfyr 2009

Math o Gwsmer

Nifer yr ymgeiswyr  

Maint ar Gyfartaledd (hectarau)

Deiliad busnes

110

14.08

Arall

3

35.49

Deiliad personol

283

9.60

Sefydliad gwirfoddol

7

18.31

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sut yr effeithiwyd ar gyllideb y Cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru gan newidiadau yng nghyfradd gyfnewid yr ewro. (WAQ55306)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Gan y gwneir ceisiadau a thaliadau o dan Coetiroedd Gwell i Gymru mewn punnoedd Sterling ni chânt eu heffeithio gan newidiadau i gyfradd gyfnewid yr euro.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): O holl gyllideb grant Coetiroedd Gwell i Gymru a ymrwymwyd hyd yn hyn, faint sy’n berthnasol i weithrediadau mewn coetiroedd conwydd a faint sy’n cefnogi coetiroedd llydanddail neu newid i goetiroedd llydanddail. (WAQ55307)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Gweler y tabl isod:

 

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 17 Rhagfyr 2009

Cyfanswm ymrwymiadau grant CGG hyd at 2013/14

 

Coetiroedd llydanddail

£3,851,692

Trosi i goetiroedd llydanddail

£813,978

Coetiroedd coniffer

£4,354,314

Cyfanswm

£9,019,984

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Ar gyfartaledd, faint o amser mae pob cynllun sydd heb gael eu cymeradwyo eto wedi gorfod disgwyl ers iddynt gael eu cyflwyno i'w hystyried gan y cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru. (WAQ55308)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Yr amser ers cyflwyno Cynlluniau Rheoli CGG sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ac sydd heb gael eu cymeradwyo eto yw 52 diwrnod ar gyfartaledd.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario yn gweinyddu’r cynllun grant Coetiroedd Gwell i Gymru ers iddo gael ei sefydlu, yn cynnwys costau staff a chost sefydlu a rhedeg y system TG, yn cynnwys y costau sydd wedi cael eu hailgodi ar Gymru.  (WAQ55309)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Yn seiliedig ar gyfalafu costau, y cyfanswm a wariwyd hyd at ddiwedd y flwyddyn bresennol ar Goetiroedd Gwell i Gymru yw £1.4 miliwn ar gyfer cyfraniad Comisiwn Coedwigaeth Cymru i gost system TG ganolog y Comisiwn Coedwigaeth sy'n cario CGG.  Mae hyn yn seiliedig ar gyfraniad Cymru o 16% o'r costau hyd at 2007/08 a 25% wedi hynny. Yn ogystal â hyn gwariwyd tua £1.8 miliwn ar gostau staff a chostau cymorth ers dechrau'r cynllun.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A fydd Coetiroedd Gwell i Gymru yn cael adolygiad hanner tymor. (WAQ55310)

Rhoddwyd ateb ar 04 Ionawr 2010

Cynhelir adolygiad canol tymor o Goetiroedd Gwell i Gymru yn 2010.