17/12/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Rhagfyr 2010 i’w hateb ar 17 Rhagfyr 2010

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl gwaith mae’r Prif Weinidog wedi ymweld â'r Gogledd ar fusnes y Cynulliad ers iddo gael ei benodi flwyddyn yn ôl. (WAQ56899)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl cyfarfod mae’r Prif Weinidog wedi’i gael gydag elusennau canser yn ystod y 12 mis diwethaf, ac ymhle y cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn. (WAQ56900)

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Andrew Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ56849, a wnaiff y Gweinidog egluro’r cynnydd sylweddol yn nifer a chyfran y taliadau a wnaethpwyd yn hwyr hyd yma yn 2010, o’i gymharu â’r cyfnodau cyfatebol yn 2009. (WAQ56887)

Andrew Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ56849, a wnaiff y Gweinidog egluro’r cynnydd sylweddol yng nghyfanswm gwerth y taliadau a gofnodwyd ar gyfer y misoedd hyd yma yn y flwyddyn ariannol hon 10/11, o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. (WAQ56888)

Andrew Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ56832, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r hawliadau teithio a chynhaliaeth a wnaethpwyd gan staff a Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan roi ffigurau ar gyfer pob un o’r pedair blynedd diwethaf. (WAQ56889)

Andrew Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ56832, a wnaiff y Gweinidog nodi cyfanswm nifer yr holl hawliadau teithio a chynhaliaeth a wnaethpwyd gan staff a Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan roi ffigurau ar gyfer pob un o’r pedair blynedd diwethaf. (WAQ56890)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gostau diogelwch holl swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru yn ystod 07/08, 09/10 a 10/11, gan ddarparu dadansoddiad fesul swyddfa. (WAQ56902)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r gyllideb arfaethedig ar gyfer pob corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdano, gan roi’r ffigur ar gyfer y tair blynedd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ56891)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r gyllideb arfaethedig ar gyfer pob corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdano, gan roi’r ffigur ar gyfer y tair blynedd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ56893)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ56837, a wnaiff y Gweinidog esbonio’r anghysondeb rhwng y ffigurau a ddarparwyd a chadarnhau pa ddyddiadau y mae’r ffigurau’n cyfeirio atynt. (WAQ56903)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r gyllideb arfaethedig ar gyfer pob corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdano, gan roi’r ffigur ar gyfer y tair blynedd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ56894)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r gyllideb arfaethedig ar gyfer pob corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdano, gan roi’r ffigur ar gyfer y tair blynedd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ56895)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl cyfarfod mae’r Gweinidog wedi’i gael gydag elusennau canser yn ystod y 12 mis diwethaf, ac ymhle y cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn. (WAQ56901)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y cleifion orthopaedig sydd (i) wedi cael eu tynnu oddi ar restr aros orthopedig neu (ii) heb gael eu cynnwys ar restr aros orthopaedig, gan roi dadansoddiad ar gyfer pob un o’r pedair blynedd diwethaf. (WAQ56904)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau deintyddol mewn cysylltiad â’r contract deintyddol newydd yn ogystal â gallu’r Byrddau Iechyd Lleol i gomisiynu gwasanaethau deintyddol newydd er mwyn i bractisau deintyddol allu ehangu i ddiwallu’r galw o fewn y GIG yng Nghymru. (WAQ56905)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r gyllideb arfaethedig ar gyfer pob corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdano, gan roi’r ffigur ar gyfer y tair blynedd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ56896)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adolygiad i gyllido Canolfan Organig Cymru. (WAQ56892)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r gyllideb arfaethedig ar gyfer pob corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdano, gan roi’r ffigur ar gyfer y tair blynedd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ56897)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r gyllideb arfaethedig ar gyfer pob corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad y mae’r Gweinidog yn gyfrifol amdano, gan roi’r ffigur ar gyfer y tair blynedd yn y gyllideb ddrafft. (WAQ56898)