18/02/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Chwefror 2008 i’w hateb ar 18 Chwefror 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog fanylu a) faint o gyn staff y WDA sydd ym mhwll adleoli Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd; b) at ei gilydd faint o weithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn y pwll adleoli; c) pa mor hir y mae’r aelod o staff sydd wedi aros hwyaf wedi bod yn y pwll adleoli; a d) faint o gyn staff y WDA sydd wedi’u neilltuo i brosiectau arbennig ar hyn o bryd. (WAQ51290)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Irene James (Islwyn): Pryd fydd network rail yn dechrau gosod signalau newydd yn ardal Casnewydd a beth yw hyd tebygol gwaith o’r fath. (WAQ51294)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth yw’r cyfrifiad diweddaraf o gost y diffyg yng nghyllid cynllun pensiwn y WDA i Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ51291)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o ymgynghorwyr sy’n gweithio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o’i gymharu â 1999. (WAQ51292)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl brosiectau cyfalaf yn y GIG yn yr wyth mlynedd ariannol diwethaf lle defnyddiwyd menter cyllid preifat, a’r holl gostau a oedd yn gysylltiedig â hwy. (WAQ51293)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog egluro os cynrychiolir arbenigwr lles anifeiliaid fel rhan o gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol ei Hadran. (WAQ51295)

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog restru holl gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol ei Hadran sy’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. (WAQ51296)

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Pa swyddogaeth sydd gan gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol yn Adran y Gweinidog yng nghyswllt lles anifeiliaid yng Nghymru. (WAQ51297)