18/06/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mehefin 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mehefin 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd yr A487 rhwng Abergwaun a Cheredigion yn parhau i gael ei dosbarthu fel cefnffordd yn y dyfodol, hyd y gellir rhagweld, ac a oes unrhyw gynlluniau i wella’r ffordd hon? (WAQ50038) Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Brian Gibbons): Nid oes cynlluniau i israddio’r A487 rhwng Abergwaun a Cheredigion. Mae cyfres o astudiaethau a gwelliannau lleol yn cael eu gwneud ar hyd y llwybr hwn.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd presgripsiynau am ddim i gleifion o Gymru sy’n defnyddio Meddygon Teulu a gwasanaethau fferyllol yn Lloegr? (WAQ50039) Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae presgripsiynau am ddim ar gael i gleifion sy’n byw yng Nghymru p’un ai yng Nghymru neu yn Lloegr y mae ganddynt Feddyg Teulu. Rhoddwyd ‘cardiau hawliau’ i gleifion sydd wedi cofrestru â Meddygon Teulu yn Lloegr sy’n golygu na fyddant yn talu os byddant yn cyflwyno’r cerdyn a’r presgripsiwn mewn fferyllfa yng Nghymru. Nid yw’r cardiau yn ddilys mewn fferyllfeydd dosbarthu yn Lloegr am nad oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru awdurdod dros fferyllwyr sydd wedi’u contractio i Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol yn Lloegr. Maent wedi eu rheoli gan Reoliadau GIG Lloegr (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2007 ac ar hyn o bryd mae’n rhaid iddynt godi tâl o £6.85 fesul eitem ar bresgripsiwn ar gleifion onid ydynt wedi’u heithrio rhag dalu o dan y meini prawf yn y Rheoliadau hynny. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan sut mae’n blaenoriaethu darpariaeth deg o wasanaethau deintyddol? (WAQ50043) Edwina Hart: Byrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am gomisiynu’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol y GIG a rheoli eu cyllidebau deintyddol eu hunain i ddiwallu anghenion iechyd y geg y boblogaeth leol. Cyflwynwyd contract deintyddol newydd i’r GIG ym mis Ebrill 2006 a gall BILlau ddefnyddio’r hyblygrwydd yn y trefniadau cytundebol deintyddol newydd i bennu lefel a lleoliad gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol. Rwyf hefyd yn bwriadu ystyried y ffordd y caiff gwasanaethau deintyddol eu darparu yng Nghymru. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddodd ar gyfer Ymarfer Deintyddol Cyffredinol yn y Gymuned? (WAQ50044) Edwina Hart: O 1 Ebrill 2006 gwnaed buddsoddiad mawr ychwanegol o £30 miliwn yn neintyddiaeth y GIG o 2006-07 er mwyn rhoi cymorth i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) a chyflwyno comisiynu lleol. Mae hwn yn gynnydd o dros 89 y cant mewn gwariant net ym maes deintyddiaeth ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999. Cyfanswm y gwariant net heb ei archwilio ar ddeintyddiaeth y GIG ar gyfer 2006-07 yw £122 miliwn. Bellach mae BILlau yn rheoli sut y caiff gwasanaethau deintyddol y GIG eu datblygu i ddiwallu anghenion lleol. Mae rôl y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol i ddarparu gwasanaethau deintyddol ychwanegol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd drwy bartneriaeth BILl mewn sawl ardal. Mae’r deintyddion cyflogedig a gyflogir o dan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn gyflogeion i ymddiriedolaethau’r GIG ac felly caiff eu costau eu cynnwys yn y dyraniadau cyffredinol a ddyranwyd i’r BILlau. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Sawl Uwch Ymgynghorydd sydd yn y Gwasanaeth Hylendid Cig yng Nghymru? (WAQ50045) Edwina Hart: Cyflogir 9 uwch arolygydd hylendid cig gan y gwasanaeth hylendid cig yng Nghymru. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am (i) nifer, (ii) gwerth y contractau sy’n cael eu rhoi allan i gontractwyr preifat yn y Gwasanaeth Hylendid Cig? (WAQ50046) Edwina Hart: Yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2006 a Mawrth 2007 cynigiodd y Gwasanaeth Hylendid Cig waith ar gontract i 457 o gyflenwyr, gwerth £48,458,776 (gan gynnwys TAW).

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Alun Davies: Sawl cartref fforddiadwy a adeiladwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn y 5 mlynedd diwethaf, a sawl cartref fforddiadwy newydd a gynllunnir ar hyn o bryd? (WAQ50040) Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae Ystadegau Tai Cymru yn darparu data ar nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd gan y sector preifat, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ond ni chaiff y wybodaeth ei chategoreiddio ymhellach yn ôl fforddiadwyedd. Rhoddwyd mesurau ar waith i fonitro tai fforddiadwy yn fwy effeithiol a dylai’r data cyntaf fod ar gael yn yr hydref.