18/06/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2009 i’w hateb ar 18 Mehefin 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog yn y cyfarfod llawn ar 9 Mehefin 2009 (t.29 y Cofnod) bod nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu wedi symud i Gymru o Dde Ddwyrain Lloegr, a wnaiff y Gweinidog roi rhestr o’r cwmnïau hynny sydd wedi adleoli i Ogledd Cymru er 2004. (WAQ54345)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog sicrhau y gall cleifion sy’n byw mewn un ardal BILl gael mynediad at Wasanaethau Deintyddol y GIG mewn ardal BILl/Ymddiriedolaeth arall os mai dyna’r cyfleuster agosaf at eu cartref. (WAQ54339)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Deintyddiaeth y GIG yn Ne Powys. (WAQ54340)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru ar wahân nifer y swyddi gweinyddol, anghlinigol yn Ymddiriedolaethau GIG Bro Morgannwg ac Abertawe yn union cyn eu huno. (WAQ54341)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru nifer y swyddi gweinyddol, anghlinigol yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. (WAQ54342)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am greu swyddi Is-gadeiryddion newydd yn y Byrddau Ymddiriedolaeth sydd newydd gael eu creu. (WAQ54343)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan a roddir tâl ar gyfer swyddi Is-gadeiryddion newydd y Byrddau Ymddiriedolaeth, ac os gwneir, a wnaiff restru’r graddfeydd cyflog. (WAQ54344)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa amcangyfrif y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ar gyfer cost trin diabetes a chyflyrau sy’n gysylltiedig â diabetes i’r GIG yn y 4 blynedd diwethaf. (WAQ54346)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Croeso Cymru i godi tâl ar fusnesau llety am brynu arwyddion llety. (WAQ54338)