Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 18 Mehefin 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Brian Gibbons (Aberafan): A aseswyd effaith y TAN 22: Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy newydd yng nghyswllt; Costau adeiladu tai preifat; costau tai fforddiadwy; a chostau adeiladu eiddo busnes. (WAQ56095)
Rhoddwyd
ateb ar 28 Mehefin 2010
Mae Nodyn Cyngor Technegol 22 yn rhoi cyngor i ddatblygwyr ac awdurdodau cynllunio lleol ar weithredu polisi cynllunio cenedlaethol ar Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy a gyhoeddwyd ym mis Mai 2009.
Wrth lunio'r polisi hwn, cafodd yr effeithiau ar awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr eu nodi a'u hystyried wrth benderfynu ar y safon ofynnol i'w phennu ar gyfer adeiladu cynaliadwy. Mae data ar gostau yn deillio o ymchwil a gyhoeddwyd gan Gymunedau a Llywodraeth Lleol ar oblygiadau safonau cynaliadwyedd a charbon o ran costau.
Mae'r data diweddaraf ar gostau ym mis Mawrth 2010 wedi dangos y gall cyrraedd Lefel 3 o'r Cod Cartrefi Cynaliadwy ar gyfer tai ar y farchnad a thai fforddiadwy gynyddu'r costau adeiladu 3-4% (o £2,000 i £3,020). Nid yw data cymaradwy ar gael ar gyfer safleoedd busnes gan fod y mathau o adeiladau mor amrywiol.