18/06/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2012
i’w hateb ar 18 Mehefin 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gyfarfodydd neu drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Chynghrair Hoci Cenedlaethol Unol Daleithiau America (NHL), Stadiwm y Mileniwm neu unrhyw barti perthnasol arall sydd â diddordeb ynghylch cynigion i gynnal gemau hoci iâ blynyddol yn Stadiwm y Mileniwm. (WAQ60554)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ohebiaeth ysgrifenedig, os o gwbl, y mae’r Prif Weinidog wedi’i hanfon ynghylch cynigion i gynnal gemau Cynghrair Hoci Cenedlaethol Unol Daleithiau America (NHL) yn Stadiwm y Mileniwm, ac a wnaiff gyhoeddi copïau. (WAQ60555)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa dargedau y mae’r Prif Weinidog wedi’u gosod ar gyfer yr Uned Gyflawni yng nghyswllt prosiectau cydweithredol rhwng Awdurdodau Lleol yng Nghymru. (WAQ60570)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau neu gyfarfodydd y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag arweinydd newydd Cyngor Caerdydd ynghylch prosiect Ardal Busnes Caerdydd, ac a yw’n rhagweld y bydd yr amserlenni ar gyfer cyflawni’r prosiect yn newid yn sgîl yr etholiadau llywodraeth leol diweddar. (WAQ60551)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid i Dîm Coginio Cenedlaethol Cymru yn 2012/13. (WAQ60566)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes ganddo gynlluniau i newid cyfraniad Llywodraeth Cymru, sef 50 y cant, tuag at ariannu prosiectau o dan y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. (WAQ60552)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o wariant Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl ar ddylunio gwefannau ar gyfer pob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ60553)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ60419, a manylion y costau blynyddol a roddir yn yr ateb, a wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o wefannau Llywodraeth Cymru a oedd yn weithredol ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys lincs ar gyfer pob un o'r rheini sydd yn dal yn weithredol ar hyn o bryd. (WAQ60562)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau a chymorth i bobl sydd ag Anhwylder Obsesiynol Cymhellol. (WAQ60548)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wario ar ei pholisi presgripsiynau am ddim i bawb ar gyfer pob blwyddyn ariannol er 2007/08. (WAQ60549)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith gynnar yr ymgyrch i recriwtio meddygon iau i hyfforddi yng Nghymru, ac a wnaiff ddarparu manylion y cynnydd, os o gwbl, yn nifer y ceisiadau ar gyfer y cyfnod derbyn academaidd nesaf. (WAQ60550)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gofal a’r driniaeth ar gyfer pobl y mae angen gofal cardiaidd arnynt. (WAQ60556)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Deintyddion a Nyrsys Deintyddol yn gallu adnabod arwyddion o esgeulustod neu gam-drin mewn plant sy’n ymweld â'u practisiau. (WAQ60557)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio gweithgareddau awyr agored mewn atgyfeiriadau ymarfer corff gan feddygon teulu i gleifion gordew. (WAQ60558)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth seicolegol sydd ar gael i bobl sydd ag anaf i fadruddyn y cefn. (WAQ60559)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ60461 a WAQ60343, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pwy sy’n gyfrifol am benderfynu pa feddyginiaethau sydd ar gael ‘dros y cownter’ sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn i gleifion ar y GIG. (WAQ60561)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i gwtogi’r amseroedd aros yn y Clinig Dermatoleg yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. (WAQ60563)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa ddarpariaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ar gyfer cleifion Ysbyty Tywysoges Cymru sydd wedi cael eu gwthio’n ôl ar y rhestr aros yn sgîl ychwanegu cleifion o glinigau lleol sydd wedi cael eu cau. (WAQ60564)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i lansio i sicrhau bod y cleifion sydd â’r angen mwyaf yn cael blaenoriaeth ar restri aros yn y Clinig Dermatoleg, Ysbyty Tywysoges Cymru. (WAQ60565)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer dyfodol yr uned hyperbarig yn Ysbyty Glan Clwyd, gyda golwg ar a) darparu gwasanaeth, b) oriau agor, ac c) nifer y gwelyau. (WAQ60567)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau a chymorth i ddioddefwyr priodasau o dan orfod a ‘thrais ar sail anrhydedd’ yng Nghymru. (WAQ60546)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn atal priodasau o dan orfod a ‘thrais ar sail anrhydedd’ yng Nghymru, drwy’r cyfrifoldebau a ddatganolwyd iddi. (WAQ60547)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hybu diogelwch i’n plant ar gludiant ysgol, wrth aros am gludiant ysgol ac wrth fynd ar ac oddi ar gludiant ysgol. (WAQ60560)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl ymgynghorwyr allanol sy’n ymwneud â phrosiectau cydweithredol rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru. (WAQ60568)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Faint sydd wedi cael ei wario ar ymgynghorwyr allanol sy’n ymwneud â phrosiectau cydweithredol rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru gan a) Llywodraeth Cymru, b) Awdurdodau Lleol, ac c) trydydd partïon sy’n gwneud hynny drwy ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru. (WAQ60569)