18/06/2014 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/04/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2014 i’w hateb ar 18 Mehefin 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, mae’r Gweinidogion yn ceisio ateb rhwng saith ac wyth diwrnod, ond nid yw’n orfodol iddynt wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y’u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i’r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Russell George (Sir Drefaldwyn): A all y Prif Weinidog gadarnhau na roddwyd pwysau gormodol ar Gyfoeth Naturiol Cymru gan Lywodraeth Cymru – naill ai gan Weinidog neu swyddogion - ynglyn â'r dystiolaeth a gyflwynwyd ganddynt i Ymchwiliad Cyhoeddus Fferm Wynt Unedig Canolbarth Cymru? (WAQ67220)

Derbyniwyd ateb ar 18 Mehefin 2014

Prif Weinidog (Carwyn Jones): Yes. The evidence presented was produced for Natural Resources Wales by an external consultant and is entirely a matter for them. Neither Ministers or officials have offered any advice or direction on the evidence presented.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drefniadau sydd i gynorthwyo pobl i brotestio adeg cynhadledd NATO yng Nghasnewydd? (WAQ67224) W

Derbyniwyd ateb ar 23 Mehefin 2014

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Mae Comander Aur yr heddlu wedi fy mriffio ar y cynlluniau ar gyfer Uwchgynhadledd NATO. Mae’r cynlluniau amlasiantaeth ar gyfer Uwchgynhadledd NATO yn dangos ymrwymiad i amddiffyn yr hawl gyfreithlon i brotestio’n heddychlon. Fel rhan o hyn, mae Gwasanaethau’r Heddlu eisoes wedi bod yn cysylltu â rhai grwpiau sy’n awyddus i brotestio.

 

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A fydd ysgolion a cholegau yng Nghymru yn parhau i gynnig tystysgrif gwyddoniaeth Safon Uwch AQA neu a fyddant yn cynnig gwyddoniaeth Safon Uwch gan CBAC yn unig o fis Medi 2015? (WAQ67222)

Derbyniwyd ateb ar 17 Mehefin 2014

Weinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis): AQA has informed Welsh Government that it does not intend to develop science A levels that will meet the requirements for delivery in Wales from September 2015.

The Welsh Government has developed Qualification Principles which provide the framework and criteria against which awarding organisations must develop AS and A level qualifications to be presented for accreditation in Wales. All A level awarding organisations in Wales, England and Northern Ireland were invited to develop specifications that meet these principles. However, only WJEC are committed to developing reformed A levels to be taught in Wales from September 2015.

 

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Leighton Andrews (Rhondda): Beth yw'r amser aros cyfartalog ar gyfer sigmoidosgopi a cholonosgopi ym mhob un o'r Byrddau Iechyd Lleol; a sut y mae hynny wedi amrywio dros y pum mlynedd diwethaf? (WAQ67221)

Derbyniwyd ateb ar 18 Mehefin 2014

Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): The average (median) waiting time for flexible sigmoidoscopy and colonoscopy for each of the Local Health Boards is shown in the tables below:

Source: StatsWales, Diagnostic and Therapy Services

I announced in March an additional £4million to help accelerate the reduction in diagnostic waiting times over the coming year. I expect to see improvements over the coming months.

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o agor uned arennol newydd yn Ysbyty Llwynhelyg? (WAQ67223) W

Derbyniwyd ateb ar 3 Gorffennaf 2014

Mark Drakeford: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru yn cwblhau’r trefniadau contract ar gyfer tendr dialysis arennol newydd Gorllewin Cymru, sy’n cynnwys yr uned dialysis arennol newydd yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae fy swyddogion a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn parhau i gefnogi’r gweithgarwch hwn i sicrhau bod uned Llwynhelyg yn weithredol cyn gynted â phosibl.

Mae’r uned dialysis arennol newydd yn ysbyty Llwynhelyg yn rhan o raglen fuddsoddi hirdymor yng Ngorllewin Cymru gan y llywodraeth hon. Mae hyn yn cynnwys gwella’r gwasanaethau ar safle Caerfyrddin ac unedau newydd yn Hwlffordd ac Aberystwyth, er mwyn darparu 20 yn fwy o welyau ar draws y tri safle. Drwy gynnwys y tri safle mewn un tendr, mae’r ddau fwrdd iechyd wedi manteisio ar y cyfle i wneud y gorau posibl o’r buddsoddiad hwn i gleifion yng Ngorllewin Cymru. Bydd y rhaglen yn cynnig gwasanaethau dialysis arennol modern a fydd yn diwallu’r galw presennol a galw yn y dyfodol, a hynny ar adeg o bwysau cyllidebol difrifol.

Mae’r buddsoddiad yng ngwasanaethau arennol Gorllewin Cymru yn dangos ymrwymiad y llywodraeth hon i ddarparu gwasanaethau rheng flaen modern ag adnoddau da yng nghalon y cymunedau hyn.