18/08/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 18 Awst 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw'r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw symiau canlyniadol Barnett a allai fod yn ddyledus o ganlyniad i'r cynllun sgrapio boeleri yn Lloegr. (WAQ56352)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ar gyfer pob seremoni wobrwyo a gyllidwyd neu a gyllidwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu'r Cyrff a Noddir ganddi, rhowch (a) enw'r seremoni, (b) ei diben, (c) faint o gyllid a roddwyd, a (d) pa ddangosydd a ddefnyddiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i fesur ei llwyddiant. (WAQ56364)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer dyfodol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. (WAQ56347)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gydag awdurdodau lleol, rhieni sy'n addysgu eu plant gartref ac eraill dros y misoedd diwethaf ynghylch addysg yn y cartref ac unrhyw bolisïau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y gweill ar gyfer delio â'r mater hwn. (WAQ56353)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y toriad arfaethedig mewn diwrnodau HMS ar gyfer athrawon a dileu'r rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus unigol fel y mae'n cael ei rhedeg gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. (WAQ56355)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw'r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i ddileu neu newid y gwasanaeth trên cyflym rhwng Caergybi a Chaerdydd. (WAQ56346)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o'r £250,000 o gyllid grant a gynigiwyd i Ŵyl y Faenol sydd eisoes wedi cael ei dalu a faint fydd yn cael ei adennill. (WAQ56349)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r rhesymau dros ei benderfyniad i roi grant o £7.5 miliwn i uwchraddio'r trenau a ddefnyddir gan Drenau Arriva Cymru. (WAQ56350)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw’r amcangyfrif o gost Ffordd Osgoi Llandysilio. (WAQ56351)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa asesiad amgylcheddol sydd wedi cael ei wneud o weithredu'r cyswllt hedfan rhwng y gogledd a'r de, o ran lefel absoliwt yr allyriadau a'r allyriadau cymharol wrth ystyried mathau eraill o drafnidiaeth sy'n gwasanaethu'r un llwybr. (WAQ56357)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer pennu'r contractwyr i weithredu'r cyswllt hedfan rhwng y gogledd a'r de a dyddiad dechrau tebygol y contract newydd. (WAQ56359)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Wrth bennu pa gontractwr a fydd yn cael y contract i weithredu'r cyswllt hedfan rhwng y gogledd a'r de, a oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru derfyn ar faint y mae'n fodlon gwario ar y contract, ac na fydd tendrau uwch y pris hwn yn cael eu derbyn. (WAQ56360)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa wasanaethau, hyrwyddo a chyhoeddusrwydd yng nghyswllt Tai y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i gyflawni ar gyfer pob un o flynyddoedd ariannol y Cynulliad hwn (2007/08, 2008/09, 2009/2010), at ba ddiben a faint mae hyn wedi'i gostio, beth mae'r Gweinidog yn bwriadu ei gyflawni yn y flwyddyn ariannol hon a beth yw'r amcangyfrif o'r gost. (WAQ56365)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwiliadau, ymchwil a gwerthuso ydych chi wedi'i gyflawni ar gyfer pob un o flynyddoedd ariannol y Cynulliad hwn (2007/08, 2008/09, 2009/2010), at ba ddiben a faint mae hyn wedi'i gostio, beth mae'r Gweinidog yn bwriadu ei gyflawni yn y flwyddyn ariannol hon a beth yw'r amcangyfrif o'r gost. (WAQ56366)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog (a) rhoi manylion pa mor aml mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (neu gyrff eraill) yn monitro, yn archwilio neu'n arolygu sefydliadau sy'n darparu cymorth dan y Grant Cefnogi Pobl; (b) rhoi manylion y weithdrefn ar gyfer hyn; (c) darparu dadansoddiad o'r costau, ee ar gyfer ymgynghorwyr, treuliau ayb a (d) rhoi manylion sut y caiff yr wybodaeth archwilio hon ei rhannu a'i defnyddio gydag awdurdodau lleol, os o gwbl. (WAQ56369)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sawl gwaith y mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi cwrdd â'r Asiantaeth Safonau Bwyd dros y 12 mis diwethaf ac a allai restru dyddiadau unrhyw gyfarfodydd a chadarnhau ym mha gyfarfodydd y trafodwyd gweithredu Adroddiad Pennington. (WAQ56348)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd y cynllun peilot 'Rhyddhau Amser i Ofalu' yn cael ei gyflwyno ar draws y GIG yng Nghymru i gyd. (WAQ56354)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud tu hwnt i dderbyn yr argymhellion a bennir yn y ddogfen o'r enw 'Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan' gan Swyddfa Archwilio Cymru. (WAQ56358)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2009/10, beth oedd cyfanswm gwarged neu ddiffyg pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. (WAQ56361)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): Beth yw'r gyllideb ar gyfer cytundeb lefel gwasanaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gydag (a) NICE; (n) Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan; ac (c) pob cyffurlyfr lleol. (WAQ56362)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi (a) cofnodion a phapurau holl gyfarfodydd Comisiwn Bevan; a (b) cost a chylch gorchwyl y Comisiwn. (WAQ56363)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fonitro gweithredu'r polisi IVF ail gylch a oedd ar waith o fis Ebrill ymlaen a pha gynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn. (WAQ56367)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyflwyno ymgyrch gwrth-stigma yng nghyswllt iechyd meddyg megis yr ymgyrch 'Time to Change' yn Lloegr a'r ymgyrch 'See Me' yn yr Alban. (WAQ56368)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2009/10 a oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu unrhyw gymorth ariannol ychwanegol i Fyrddau Iechyd Lleol a chanddynt (a) diffygion tymor byr neu (b) diffygion strwythurol, ac os nad, a yw'n bwriadu gwneud hynny. (WAQ56370)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ymchwilio i bosibilrwydd diwygio targedau gwasanaethau ambiwlans er mwyn ystyried ffactorau mwy ansoddol. (WAQ56371)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl drafodaethau rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru ac (a) yr UE a (b) Llywodraeth y DU sy'n ymwneud ag Adolygiad yr UE o Ffiniau Ardaloedd Llai Ffafriol. (WAQ56372)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gyllido Llais Wrecsam (Cynllun Grant Eiriolaeth), drwy Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain, ar ôl i'r cyllid ddod i ben ym mis Mawrth. (WAQ56345)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes diffiniad safonol o 'anabledd dysgu' y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i leihau'r perygl o achosi tramgwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth. (WAQ56356)