18/10/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2011 i’w hateb ar 18 Hydref 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion am ymatebion Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Ofgem ar y Prosiect TransmiT. (WAQ58134)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda chynrychiolwyr Llywodraeth yr Alban ynghylch ymgynghoriad Ofgem ar y Prosiect TransmiT. (WAQ58135)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd ar waith i lenwi’r rôl a gyflawnwyd gan Gynllun Arloesedd Tywysog Cymru. (WAQ58130)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Sawl cynnig i ad-drefnu ysgolion y mae Gweinidogion Cymru wedi’u penderfynu ers 1999, a pha amcangyfrif y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch sawl un na fyddai wedi cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru o dan y system arfaethedig ym Mhapur Gwyn y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru). (WAQ58132)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn sgîl brigdorri cyllideb ddysgu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd y gyllideb ddysgu a bennwyd ar gyfer cyrsiau carfan myfyrwyr 2011/2012 yn cael ei chynnal a’i chadw hyd nes y byddant yn cwblhau eu hastudiaethau gradd. (WAQ58136)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o arian o gyllideb ddysgu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sydd wedi cael ei symud i gyllido’r Grant Ffioedd Dysgu newydd. (WAQ58137)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf faint yn union o fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ardoll Bagiau Siopa Untro, ac a wnaiff eu dadansoddi yn ôl y math o gwmni. (WAQ58122)

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddweud faint yn union o becynnau gwybodaeth a anfonwyd i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan yr ardoll Bagiau Siopa Untro yn ogystal â nodi dyddiadau anfon y pecynnau hynny.  (WAQ58123)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r pwysau ychwanegol ar y gyllideb rheoli gwastraff sydd wedi golygu bod raid cael cyllid ychwanegol dros gyfnod tair blynedd y gyllideb. (WAQ58127)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa symiau canlyniadol Barnett sydd wedi dod i law Llywodraeth Cymru ar ôl i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenneth Clarke, ddyrannu £20 miliwn at ddefnydd canolfannau di-elw yn y gymdogaeth ym maes y gyfraith a chynghori er mwyn gwneud iawn am y toriadau mewn cymorth cyfreithiol, a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r arian hwnnw. (WAQ58131)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gyfradd(au) chwyddiant sydd wedi cael eu defnyddio i benderfynu gwerth blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru mewn termau real ym mhob blwyddyn o’r cyfnod dan sylw yn y gyllideb ddrafft. (WAQ58128)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r arbedion a wnaed o ganlyniad i’r rhaglen Buddsoddi i Arbed. (WAQ58129)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r canllawiau ar ofal ysbrydol yn y GIG yng Nghymru. (WAQ58124)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad llawn o sut y mae pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru wedi cydymffurfio â’r Safonau Canser Cenedlaethol. (WAQ58125)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleusterau newid ar gyfer staff yn ysbytai’r GIG. (WAQ58138)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig am y gwasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr sy’n dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). (WAQ58139)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): O gofio bod rhywfaint o aildrefnu blaenoriaethau wedi gorfod digwydd yn y Prif Grwp Gwariant Llywodraeth Leol a Chymunedau er mwyn ariannu ymrwymiad y Llywodraeth i ddarparu 500 yn rhagor o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ym mha linellau yn y gyllideb y gwnaethpwyd yr aildrefnu blaenoriaethau hyn.  (WAQ58126)

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddarparu manylion am gost flynyddol prydles rent Ty Hywel ym mhob blwyddyn ariannol rhwng 1999 a’r presennol, ac a allwch gadarnhau (a) beth yw cyfnod presennol y brydles a (b) a ystyriwyd prynu’r adeilad yn y gorffennol. (WAQ58133)