Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Chwefror 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Fesul adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ar gyfer pob blwyddyn er 1999, faint o weithwyr a gafodd eu diswyddo a beth oedd y rhesymau dros eu diswyddo? (WAQ53387)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Ers 2003 bu 43 o ddiswyddiadau, 18 ohonynt yn faterion disgyblu a 23 ar sail effeithlonrwydd. Mae’r wybodaeth hon yn ein cronfeydd data Adnoddau Dynol, ond ni chafodd ei chofnodi’n ganolog cyn 2003. Mae’r dadansoddiad isod.
Blwyddyn |
Adran |
Rheswm |
Nifer y Staff |
2003 |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
DISGYBLAETHOL |
2 |
2004 |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2005 |
APADGOS |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2005 |
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2005 |
Materion Gwledig a Threftadaeth |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2005 |
Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2006 |
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2006 |
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth |
DISGYBLAETHOL |
2 |
2006 |
Yr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2006 |
Comisiwn Iechyd Cymru |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2006 |
Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2006 |
Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2007 |
Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2007 |
Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2007 |
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth |
ANEFFEITHLONRWYDD |
3 |
2007 |
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2007 |
Adran y Prif Weinidog |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2007 |
Yr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad |
ANEFFEITHLONRWYDD |
3 |
2007 |
Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2007 |
Materion Gwledig a Threftadaeth |
ANEFFEITHLONRWYDD |
3 |
2007 |
Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol |
DISGYBLAETHOL |
2 |
2008 |
APADGOS |
ANEFFEITHLONRWYDD |
2 |
2008 |
Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2008 |
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2008 |
Adran yr Economi a Thrafnidiaeth |
DISGYBLAETHOL |
1 |
2008 |
Yr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2008 |
Addysg a Dysgu Cymru |
ANEFFEITHLONRWYDD |
2 |
2008 |
Yr Adran Adnoddau Dynol |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2008 |
Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2008 |
Materion Gwledig a Threftadaeth |
ANEFFEITHLONRWYDD |
1 |
2008 |
Materion Gwledig a Threftadaeth |
DISGYBLAETHOL |
2 |
Cyfanswm |
43 |
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o ymgeiswyr am Lwfansau Cynhaliaeth Addysg sydd wedi tynnu eu ceisiadau yn ôl eleni ac ym mhob blwyddyn ers eu cyflwyno? (WAQ53421)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Ers iddo gael ei gyflwyno, ni thynnwyd unrhyw gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn ôl.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o fyfyrwyr a ymgeisiodd am Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd a pha gyfran sydd yn dal i ddisgwyl i’w ceisiadau gael eu cymeradwyo? (WAQ53422)
Jane Hutt: Gwnaeth 33,290 o fyfyrwyr gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn 2007/08 ac, o’r ceisiadau hyn, yn amodol ar gael y wybodaeth neu’r dystiolaeth sy’n weddill gan yr ymgeisydd, mae 1180 (3.5%) heb eu penderfynu o hyd. Nid oes unrhyw geisiadau o 2007/08 heb eu penderfynu lle y darparwyd yr holl wybodaeth. Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar geisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer 2008/09 yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf 'Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a Ddyfarnwyd yng Nghymru yn 2008/09 (Dros Dro)’ ym mis Ionawr 2009.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Ar gyfartaledd, pa mor hir a gymerwyd i brosesu ceisiadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg eleni ac mewn blynyddoedd blaenorol? (WAQ53425)
Jane Hutt: Gwerthuswyd nifer y diwrnodau a gymerir i brosesu’r ceisiadau gan ddefnyddio’r dyddiad y derbyniwyd y cais gyntaf, hyd nes y cyrhaeddir y cam asesu, gan ychwanegu 3 diwrnod er mwyn ystyried yr amser a gymerir i gyrraedd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Mae penwythnosau a gwyliau banc yn yr Alban wedi’u cynnwys, a byddant yn cynyddu’r cyfartaledd.
2004/05 |
11.00 |
2005/06 |
16.40 |
2006/07 |
14.00 |
2007/08 |
13.10 |
2008/09 |
22.40 |
Cyflwynwyd mesurau gwrth-twyll ychwanegol yn 2008/09 ac rwyf wedi bod yn monitro effeithiau’r amser prosesu hwy yn agos. O ganlyniad, cyhoeddais y gwelliannau y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn eu cyflwyno yn 2009/10 i wella amseroedd prosesu yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 16 Chwefror 2009.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Yn dilyn WAQ53150, a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o ddyddlyfrau a phapurau newydd y mae unigolion wedi’u prynu o gyllidebau Is-adrannol? (WAQ53428)
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Ni chedwir gwybodaeth am gyfnodolion a phapurau newydd penodol a brynir gan unigolion o gyllidebau Is-adrannau yn ganolog.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu argymhellion y Pwyllgor Cyllid fel y’u gosodwyd allan yn adroddiad y Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft? (WAQ53430)
Andrew Davies: Gellir gweld fy ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-fin-home/bus-committees-third-fin-agendas.htm.
Yn benodol, rhannaf nod y Pwyllgor o sicrhau gwell tryloywder o fewn y broses graffu, a byddaf yn archwilio ffyrdd o gynyddu tryloywder ymhellach ar gyfer y broses o graffu ar y gyllideb ddrafft nesaf gan adeiladu ar y gwelliannau a wnaed eleni.