19/05/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Mai 2010 i’w hateb ar 19 Mai 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â pha awdurdodau lleol sydd wedi mesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg. (WAQ56001) W

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â phryd y bydd yn gwneud penderfyniad parthed ad-drefnu ysgolion yng Nghaerdydd. (WAQ56002) W

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â phryd y bydd gwaith o fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn dechrau, yn unol â’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg. (WAQ56003) W

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â phryd y mae disgwyl i awdurdodau addysg adrodd i’r Llywodraeth am eu cynlluniau i ymestyn ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg. (WAQ56004) W

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad y Cynllun Iechyd Gwledig. (WAQ55995)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r gweithdrefnau a ddefnyddir i brofi gweithwyr gofal iechyd am TB yng Nghymru. (WAQ55996)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa brofion sydd ar waith i sicrhau y glynir yn gaeth wrth ganllawiau Cylchlythyr Iechyd Cymru (2006) 086. (WAQ55997)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw canllawiau Cylchlythyr Iechyd Cymru (2006) 086 yn ddigon cadarn i fynd i’r afael ag achosion o TB yng Nghymru. (WAQ55998)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl gweithiwr gofal iechyd sydd wedi cael eu profi am TB dros y deuddeg mis diwethaf ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul ysbyty. (WAQ55999)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch cynlluniau i wyrdroi’r cynnydd yn nifer yr achosion o TB yng Nghymru. (WAQ56000)