Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Hydref 2011 i’w hateb ar 19 Hydref 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ58080, ac yn benodol y wybodaeth ynghylch presenoldeb Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennigar dir comin, a wnaiff y Gweinidog egluro i) beth fyddai’n arwain at golli hawliau; ii) a fyddai colled o’r fath yn arwain at iawndal; a iii) pa awdurdod sydd gan Lywodraeth Cymru i dynnu ‘hawliau pori’ oddi ar eu perchnogion. (WAQ58141)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Sawl sefydliad Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru sydd heb gynrychiolaeth myfyrwyr ar eu Byrddau Llywodraethwyr/Senedd. (WAQ58140)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cael cyngor cyfreithiol clir yn cadarnhau nad yw ei pholisi o gynnig cymhorthdal i fyfyrwyr o Gymru tuag at eu ffioedd dysgu, lle bynnag y maent yn dewis astudio yn y DU, yn mynd yn groes i gyfraith yr UE. (WAQ58142)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A oes unrhyw asesiad wedi’i wneud yn y ddwy flynedd diwethaf o effeithiolrwydd cost tocynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus. (WAQ58143)