Atebion a roddwyd i Aelodau ar 19 Tachwedd 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Beth yw manteision rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio o’u cymharu â rheilffyrdd nad ydynt wedi’u trydaneiddio? (WAQ50669)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Dylid ystyried gwir fantais amgylcheddol trenau trydanol yng nghyd-destun y modd y caiff yr ynni trydanol i’r pwynt cyflenwi ei gynhyrchu yn y lle cyntaf a datblygiadau technolegol mewn unedau peirianyddol a allai leihau gollyngiadau carbon.
Yn ogystal â’r materion amgylcheddol a'r profiad teithio i deithwyr unigol, mae angen ystyried cydbwysedd costau ariannol a manteision amgylcheddol a gweithredol trydaneiddio.