20/01/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Ionawr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Ionawr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Prif Wweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53118)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Dangosir y wybodaeth isod:

Trafnidiaeth Gyhoeddus a ddefnyddiwyd gan Weinidogion ar Ymrwymiadau Swyddogol o fis Mai 2007 i fis Rhagfyr 2008

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Ionawr 2009

Gweinidog

Sawl Gwaith y Defnyddiwyd Trafnidiaeth Gyhoeddus

Dull

Y Prif Weinidog:

 

 

Rhodri Morgan

41

28 x Trên

 

 

13 x Taith awyr

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

 

 

Jane Hutt

24

13 x Trên

 

 

11 x Taith awyr

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

 

 

Ieuan Wyn Jones

24

16 x Trên

 

 

7 x Taith awyr

 

 

1 x Fferi

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

 

 

Jane Davidson

37

31 x Trên

 

 

5 x Taith awyr

 

 

1 x Fferi

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

 

 

Andrew Davies

12

10 x Trên

 

 

2 x Taith awyr

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Edwina Hart

7

2 x Trên

 

 

5 x Taith awyr

Y Gweinidog dros Dreftadaeth

 

 

Rhodri Glyn Thomas

21

7 x Trên

 

 

14 x Taith awyr

 

 

 

Alun Ffred Jones (o fis Medi 2008)

1

1 x Trên

 

 

 

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

 

 

Brian Gibbons

15

10 x Trên

 

 

3 x Taith awyr

 

 

2 x Fferi

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig

 

 

Elin Jones

11

4 x Trên

 

 

7 x Taith awyr

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyhoeddi'r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ar Ffordd Fynediad Maes Awyr Caerdydd? (WAQ53075)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pryd mae’r Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad am ei ymateb i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar Ffordd Fynedfa Maes Awyr Caerdydd ac a wnaiff gynnig amserlen fras ar gyfer gweithredu? (WAQ53102)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Bwriadaf wneud cyhoeddiad am wella mynediad i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn y gwanwyn pan gaiff adroddiad Datganiad o Resymau ei gyhoeddi.

Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am wasanaethau bws ledled Caerffili a Chwm Rhymni isaf? (WAQ53078)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Cyfrifoldeb Cyngor Bwrdeistref Caerffili a'r cwmnïau bysiau lleol yw gwasanaethau bws yng Nghaerffili a Chwm Rhymni isaf. Rwy'n cynorthwyo'r Cyngor drwy ddarparu bron £1.7 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol drwy'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Leol a thrwy'r setliad refeniw i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau. Yn ogystal, rwy'n datblygu cynlluniau yn Neddf Trafnidiaeth  Leol 2008 sy'n annog gwaith partneriaeth cryfach ac agosach rhwng awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau er mwyn darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion lleol.

Michael German (Dwyrain De Cymru): I’r mis agosaf, pryd mae’r Gweinidog yn disgwyl (a) y bydd yn cael yr achos busnes ar gyfer traffordd liniaru arfaethedig yr M4; a (b) y caiff yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ei gwblhau. (WAQ53091)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Disgwyliaf gael yr Achos Busnes yn y dyfodol agos.  Mae amser cwblhau'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir ar ôl i mi ystyried yr Achos Busnes.

Nick Ramsay (Mynwy): Sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynorthwyo gweithwyr yr effeithiwyd arnynt yn sgil cau siopau Woolworths? (WAQ53110) Trosglwyddwyd y Cwestiwn Ysgrifenedig hwn gan y Cynulliad i'r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ei ateb.

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Bydd pob gweithiwr a gafodd ei effeithio gan y broses o gau siopau Woolworths yng Nghymru yn gallu cael pecyn cymorth ReAct Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd werth dros £6,000 y pen, i'w helpu i feithrin sgiliau newydd a dychwelyd i weithio cyn gynted â phosibl.

Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Siambr Fasnach Cas-gwent ynghylch Woolworths yn cau? (WAQ53111)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Er nad wyf wedi cael trafodaethau gyda Siambr Fasnach Cas-gwent ar y mater hwn, mae fy swyddogion, ynghyd â phartneriaid Tîm Cymru yn y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru, yn barod i helpu'r rhai a gafodd eu heffeithio i ddod o hyd i gyflogaeth newydd a chyfleoedd hyfforddi.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53121) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53122) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53120) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53119) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): O ran y Cyfarwyddebau Datblygu a Chomisiynu Gwasanaethau (Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol Cronig), a wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y targedau a gyflawnwyd o safbwynt y Camau Allweddol hyd yn hyn? (WAQ53112)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): O ran y Cyfarwyddebau Datblygu a Chomisiynu Gwasanaethau (Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol Cronig), pa gamau mae’r Gweinidog yn eu cymryd i weithio tuag at y targedau hynny ac i sicrhau bod pwyntiau’r Camau Allweddol yn cael eu rhoi ar waith? (WAQ53113)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Yn ddiweddar, ysgrifennodd Llywodraeth Cynulliad Cymru at bob BILl yn gofyn iddynt gyflwyno adroddiad sefyllfa yn manylu ar gynnydd yn erbyn pob un o'r camau gweithredu allweddol yn y Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau ar gyfer Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol. Cymerodd pob BILl ran yn yr archwiliad, a oedd yn nodi'r hyn sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r Gyfarwyddeb ac yn cydnabod y gwaith sydd angen ei wneud o hyd i gyflawni pob un o gamau gweithredu allweddol y Cyfarwyddebau. Mae'r dystiolaeth a roddwyd gan y BILlau yn dangos rhywfaint o amrywiaeth o ran cynnydd ledled Cymru.

Nid yw hyn yn dderbyniol ac mae fy Nghyfarwyddwr Cyfeiriad a Chynllunio Strategol wedi ysgrifennu at y BILlau i ofyn am welliannau sylweddol yn 2009. Disgwyliaf weld datblygiadau gwirioneddol gyda gwasanaethau lleol yn ystod y misoedd i ddod a fydd yn helpu i wella profiad y claf. Mae'n ofynnol i BILlau gydweithio, rhannu profiadau a datblygiadau a dysgu o arfer da ledled Cymru. Bydd yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd a'r Arddangoswr Rheoli Afiechyd Cronig yn y gogledd yn cefnogi'r gwaith hwn. Hysbyswyd BILlau y byddaf yn ailadrodd yr archwiliad ym mis Medi 2009 er mwyn parhau i adolygu cynnydd.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53117) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru’n ail-leoli i adeiladau newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Aberystwyth a faint fydd yr ail-leoli hyn yn ei gostio? (WAQ53088)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau beth oedd cyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at gost ail-leoli Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru o Salop Caravans Ltd ar Stad Ddiwydiannol Treowain, Machynlleth, i safle’r hen Celtica ym Machynlleth yn 2008? (WAQ53089)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Nid oes cynlluniau i Bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru adleoli i adeiladau newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Aberystwyth.

Ni wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gyfraniad penodol at adleoli Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru i Fachynlleth yn 2008. Talwyd y costau adleoli gan ddefnyddio'r cyllid blynyddol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi i'r Bartneriaeth.

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw canran cyfran Cymru o’r farchnad dwristiaeth ryngwladol ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53099)

Alun Ffred Jones: Yn seiliedig ar nifer yr ymwelwyr, dangosir cyfran ganrannol Cymru o ymwelwyr rhyngwladol â'r DU bob blwyddyn ers 1999 isod:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Ionawr 2009
 

1999

2000

2001

2002

2003

2004

2005

2006

2007

%

3.62

3.90

4.01

3.56

3.62

3.65

3.25

3.47

3.01

                   

Ffynhonnell: Arolwg Teithwyr Rhyngwladol

# Nid yw data 2008 ar gael eto.

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw canran cyfran Cymru o farchnad dwristiaeth y DU ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53100)

Alun Ffred Jones: Yn seiliedig ar nifer yr ymwelwyr, dangosir cyfran ganrannol Cymru o farchnad dwristiaeth y DU bob blwyddyn ers 1999 isod.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Ionawr 2009
 

1999

2000

2001

2002

2003

2004

2005

2006

2007

%

7.46

7.64

7.11

7.17

7.68

7.03

8.14

7.61

7.17

                   

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth y Deyrnas Unedig

# Newidiwyd y fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth gasglu ystadegau yn 2000 ac eto yn 2005.

## Nid yw data 2008 ar gael eto.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo nofio am ddim i’r rheini dros 60 oed? (WAQ53095)

Alun Ffred Jones: Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn hysbysebu buddiannau allweddol y cynllun Nofio am Ddim i bobl dros 60 oed drwy ddatganiadau i'r wasg a straeon, sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd cylchlythyrau i awdurdodau lleol hefyd i annog arfer da a chynhyrchwyd pecyn cymorth marchnata ar y ffordd orau o hyrwyddo'r cynllun Nofio am Ddim yn lleol.

Cynhaliwyd diwrnodau hyfforddi rhanbarthol hefyd ar gyfer cydlynwyr y cynllun Nofio am Ddim gyda phwyslais arbennig yn cael ei roi ar farchnata.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53116) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd yn 2009 i gael rhanddirymiadau rhag gofyniad y Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno tagiau adnabod electronig gorfodol ar gyfer defaid? (WAQ53090)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Rwy'n cwrdd â'r Comisiynydd Vassiliou ar 19 Ionawr i drafod ystod o faterion sy'n ymwneud ag Iechyd a Lles Anifeiliaid gan gynnwys adnabod defaid yn electronig. Byddaf yn pwyso am adolygiad o Reoliad 21/2004 y Cyngor neu am lacio'r gofynion yn unol â'm dull gweithredu deublyg i'r mater hwn.

Mae swyddogion y Comisiwn yn ymweld â'r DU ym mis Chwefror i weld yr anawsterau ymarferol y mae'r DU yn eu profi yn sgil y Rheoliad. Bydd y daith yn rhoi cyfle i'r diwydiant a'm swyddogion dynnu sylw at yr anawsterau ymarferol y mae'r Rheoliad yn eu cyflwyno.

Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod Ewrop yn amheus o hyd o systemau'r DU ar gyfer olrhain symudiad defaid. Mae'r amheuon hyn yn deillio o FMD 2001 ond fe'u hategwyd gan dri arolygiad Ewropeaidd beirniadol a arweiniodd at golli rhanddirymiad dros dro y DU ar dagio dwbl.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53115) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn y Trydydd Cynulliad, sawl gwaith mae’r Gweinidog wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddigwyddiad swyddogol a pha ddull/dulliau o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd? (WAQ53114) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ3118.