20/01/2010 - Written Assembly Questions

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Ionawr 2010 i’w hateb ar 20 Ionawr 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

David Melding (Canol De Cymru): Sawl cwmni a gafodd gymorth busnes dan bob elfen o'r rhaglen Cronfa Fuddsoddi Sengl ar gyfer; dechrau; ehangu; moderneiddio; ailstrwythuro; datblygu cynnyrch newydd; prosesau a gwasanaethau; cyngor arbenigol; cymorth busnes cyffredinol a mentora rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2009 a sut yr oedd hyn yn cymharu â'r targedau ar gyfer pob un o elfennau'r Gronfa Fuddsoddi Sengl. (WAQ55395)

David Melding (Canol De Cymru): Beth yw'r cyfnod cyfartalog rhwng anfon yr ymholiad cychwynnol i Lywodraeth Cynulliad Cymru a dyfarnu'r cyllid ar gyfer cwmnïau sy'n gwneud cais am gymorth yn rhaglenni'r Gronfa Fuddsoddi Sengl. (WAQ55396)

David Melding (Canol De Cymru): Pa gyfran o'r Rhaglen Cymorth Busnes oedd wedi cael ei gwario erbyn 31ain Hydref 2009. (WAQ55397)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i'r cyfyngiadau diweddar ar hyrwyddo alcohol yn y fasnach â thrwydded i weini alcohol yn yr Alban ac a ddylid defnyddio mesurau o'r fath yng Nghymru. (WAQ55398)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint sydd wedi cael ei dalu i Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn ad-dalu am bresgripsiynau am ddim rhwng 1af Ebrill a 1af Rhagfyr 2009 a faint o'r cyllid hwnnw sy'n berthnasol i gleifion na fyddent wedi bod yn gymwys cyn mis Ebrill 2007. (WAQ55399)