Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mai 2009 i’w hateb ar 20 Mai 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau ynglŷn â’i gronfa talent graddedigion. (WAQ54183)
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd graddedigion yng Nghymru’n gallu defnyddio cronfa talent graddedigion yr Adran Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau. (WAQ54184)
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa fusnesau yng Nghymru, os oes rhai, sydd wedi mynd i bartneriaeth â Chynllun Talent Graddedigion yr Adran Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau. (WAQ54185)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru, fesul un, cost pob astudiaeth ddichonoldeb, ymgynghoriad, gwaith tir a ffi ymgynghori er 1999 yng nghyswllt ffyrdd mynediad Maes Awyr Caerdydd a dewisiadau ar gyfer gwneud yr A48 yn gefnffordd. (WAQ54182)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o driniaethau IVF sydd wedi cael eu cynnal ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf, ac o’r triniaethau hynny, faint a oedd yn llwyddiannus ym mhob blwyddyn. (WAQ54186)