20/10/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 20 October 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 20 Hydref 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Fujitsu Services ynghylch colli swyddi yng Nghymru. (WAQ55002)

Rhoddwyd ateb ar 28 Hydref 2009

Mae Fujitsu wedi cychwyn ar broses ymgynghori tri mis ar draws y DU lle bydd materion yn ymwneud â llafur yn cael eu trafod gyda'r priod undebau. Disgwylir cyflawni'r colledion arfaethedig erbyn diwedd 2009 a bydd yr holl gyflogeion yr effeithir arnynt yn cael cynnig arweiniad a chymorth

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl gwneud cyhoeddiad am y ffordd ymlaen gyda chyllid 'Cefnogi Pobl’. (WAQ54997)

Rhoddwyd ateb ar 28 Hydref 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Nid wyf wedi dod i benderfyniad eto ynglŷn â throsglwyddo Grant Refeniw Cefnogi Pobl. Rwyf wedi gofyn i CLlLC a Chymorth Cymru i weithio gyda fy swyddogion i drafod y ffordd ymlaen, gan ystyried y materion a'r pryderon sydd wedi eu datgan. Dymunaf sicrhau na fydd unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r broses drosglwyddo yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n agored i niwed.  

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran datblygu cartrefi nyrsio di-elw sydd wedi’u hadeiladu yng Nghymru ers cyflwyno Agenda Cymru’n Un. (WAQ54998)

Rhoddwyd ateb ar 28 Hydref 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Rydym wedi bod yn ystyried ystod o opsiynau er mwyn dod o hyd i'r dull gorau o weithredu ac erbyn hyn yn datblygu model "Model Canolfan Adnoddau” mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn.  Bydd hyn yn darparu cyfleuster unigol ar gyfer gwasanaethau lleol gan gynnwys darpariaeth cartref nyrsio sydd yn arbennig o berthnasol mewn cymunedau gwledig.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y nyrsys sydd ar gael i ysgrifennu presgripsiynau. (WAQ54999)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pwy fydd yn archwilio’r safonau a gynigir yn Agenda Cymru’n Un i wella bwyd ysbytai a glanweithdra ysbytai, a phwy fydd yn penderfynu a yw’r gwelliannau hynny wedi cael eu gwneud ai peidio. (WAQ55000)

Rhoddwyd ateb ar 23 Hydref 2009

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy'n cynnal adolygiadau ar lendid ysbytai.  Pan fydd angen gwelliannau, caiff cynllun gweithredu ei lunio gan sefydliad y GIG a'i fonitro gan swyddogion drwy swyddfeydd rhanbarthol iechyd.  Caiff ansawdd bwyd ysbytai ei fonitro ar lefel wardiau ac mae'n rhan o "Hanfodion Gofal".

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gymorth y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei roi i bysgotwyr Cymru sydd wedi’u hatal rhag pysgota ym Mae Aberteifi tan 1 Mawrth 2010. (WAQ55003)

Rhoddwyd ateb ar 28 Hydref 2009

I ddiogelu'r bysgodfa yn y tymor byr ac i geisio hyfywedd hirdymor y bysgodfa gwneuthum y penderfyniad anodd iawn i ymestyn y tymor caeedig tan Chwefror 28ain 2010 o dan Orchymyn Gwahardd Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2009 ac rwyf yn cydnabod y baich mae'r pysgotwyr cregyn bylchog yn ei wynebu o ganlyniad i'r ymestyniad hwn. Nid oes cronfa ar gael i mi er mwyn cynnig iawndal o dan amgylchiadau o'r fath. Fodd bynnag, mae fy swyddogion yn ceisio dod o hyd i'r ateb gorau posibl er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y bysgodfa fel rhan o ecosystem forol iach. Rwyf yn gobeithio cyhoeddi'n fuan fanylion Gorchymyn Cregyn Bylchog Cymreig newydd i'w gyflwyno o 1 Mawrth 2010.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel camddefnyddio cyffuriau ar bresgripsiwn ers dyddiad cyhoeddi Agenda Cymru’n Un. (WAQ55001)

Rhoddwyd ateb ar 28 Hydref 2009

Yn ôl adroddiad Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau cafwyd 1931 o atgyfeiriadau triniaeth o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau presgripsiwn ers mis Gorffennaf 2007. Mae cynllun gweithredu tair blynedd strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ yn gosod ymrwymiadau'r Cynulliad o ran meddyginiaethau presgripsiwn yn unig a meddyginiaethau dros y cownter. Mae'r camau gweithredu hyn yn cynnwys cefnogi gwaith ymchwil i batrymau presgripsiynu benzodiazepines, ymgynghori â chyrff proffesiynol perthnasol i annog presgripsiynu a gweinyddu cyfrifol; ac adolygu darpariaeth gwasanaethau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i'r rheini sy'n ddibynnol ar feddyginiaethau presgripsiwn yn unig a meddyginiaethau dros y cownter.