Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2010 i’w hateb ar 20 Hydref 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion unrhyw gyfrifiadau sy'n ymwneud â'r enghraifft, yn ei ddatganiad ar 12fed Hydref, y gallai codi ffi o £7,000 ar fyfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion yn Lloegr arwain at gost i Lywodraeth Cynulliad Cymru o £70m ychwanegol erbyn 2015-2016, ac y byddai £55m o hwnnw'n llifo i bob pwrpas o floc Cymru i brifysgolion Lloegr. (WAQ56604)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cael ei ddyrannu ar gyfer ffordd osgoi'r Drenewydd. (WAQ56607)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf ar gyfer codi arwyddion rhybudd ceffylau. (WAQ56608)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Brian Gibbons (Aberafan): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ55664 a WAQ55665, a wnaiff roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau allyriadau blynyddol er 1990. (WAQ56603)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb CAFCASS Cymru a nifer y sesiynau cyswllt wedi'u goruchwylio am ddim mae'n gallu eu rhoi i deuluoedd. (WAQ56606)