20/10/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/10/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2017 i'w hateb ar 20 Hydref 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A fydd y protocol diwygiedig Cymru gyfan ar gyfer plant sydd ar goll yn golygu bod cynnal cyfweliadau dychwelyd/ôl-drafodaethau gyda phlant sydd wedi bod ar goll yn ofyniad statudol ledled Cymru, fel yr argymhellwyd yn adroddiad ar y cyd y Gymdeithas Plant a'r Eglwys yng Nghymru, 'Bwlch yn y Gwybodaeth'? (WAQ74430)

Derbyniwyd ateb ar 18 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Carl Sargeant): The Welsh Government is determined that all agencies in Wales address this issue effectively and we are working with stakeholders to further develop robust and effective safeguarding responses to children who go missing from home or care.